Theresa May Llun: PA
Fe fydd Theresa May yn teithio i Frwsel heddiw ar gyfer trafodaethau gyda phenaethiaid yr Undeb Ewropeaidd er mwyn ceisio symud y trafodaethau Brexit ymlaen.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog gwrdd â’r prif negodwr Michel Barnier a llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Jean-Claude Juncker ddyddiau’n unig ar ôl iddyn nhw ddweud nad oedd cynnydd wedi bod yn y trafodaethau ynglŷn â gadael yr UE.

Mae ffynonellau yn Downing Street wedi mynnu bod y cyfarfod wedi ei drefnu “ers wythnosau”  ond mae’n debyg bod y cyhoeddiad yn annisgwyl a daw ar ôl i’r trafodaethau wythnos ddiwethaf ddod i ben gydag ychydig iawn o gytundeb ar y prif feysydd dan sylw.

Fe fydd Theresa May, ynghyd a’r Ysgrifennydd Brexit David Davis yn cynnal trafodaethau gyda Michel Barnier a  Jean-Claude Juncker cyn i holl arweinwyr yr UE gwrdd yn ddiweddarach yn yr wythnos.