Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe bellach yn dwyn enw Hillary Clinton yn dilyn ei hymweliad â’r brifysgol brynhawn ddoe.

Derbyniodd y cyn-ymgeisydd Arlywyddol a chyn-Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau Ddoethuriaeth Er Anrhydedd gan yr Is-ganghellor yr Athro Richard B. Davies mewn seremoni arbennig yn Neuadd Fawr Campws y Bae, sef ail gampws y brifysgol.

Cafodd hi ei hanrhydeddu am ei gwaith ym maes hawliau teuluoedd a phlant ledled y byd, ymrwymiad sy’n cael ei rannu gan Arsyllfa Prifysgol Abertawe ar Hawliau Dynol Plant a Phobol Ifanc.

Yn ystod ei haraith ar y testun Hawliau Dynol yw Hawliau Plant, fe fu Hillary Clinton yn siarad am ei gwaith yn hyrwyddo cydraddoldeb hawliau plant a phobol ifanc.

Ar ôl y seremoni, dadorchuddiodd hi garreg goffa i nodi ailenwi Coleg y Gyfraith a Throseddeg y Brifysgol yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton.

‘Un o fenywod mwyaf pwerus a phwysig yr oes’

Ar ôl ymweliad Hillary Clinton â’r brifysgol, dywedodd yr Athro Richard B. Davies: “Heb amheuaeth, mae Mrs Clinton yn un o fenywod mwyaf pwerus a phwysig yr oes.

“Mae ei dylanwad ar bolisi cenedlaethol diweddar a chyfredol yr Unol Daleithiau ac ar faterion byd-eang wedi bod yn anferth.

“Heddiw, wrth ddyfarnu’r radd hon ac ailenwi ein Hysgol y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, rydym yn amlygu ein cefnogaeth ar gyfer yr un gwerthoedd cyfiawnder a hawliau y mae hi’n adnabyddus amdanynt.

“Mae’n arbennig o arwyddocaol bod Mrs Clinton wedi dewis Prifysgol Abertawe i wneud cyhoeddiad pwysig am sut bydd hi’n sianelu ei hegni diamheuol ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus i waith rhyngwladol ym maes hawliau dynol.

“Mae heddiw hefyd yn nodi dechrau perthynas ystyrlon rhwng Prifysgol Abertawe a Mrs Clinton, sy’n seiliedig ar ein cred gyffredin bod gennym i gyd gyfrifoldeb i gyflawni newid yn y byd cymdeithasol a’r byd economaidd.

“Mae’n bleser mawr gennym weithio mewn partneriaeth â hi, i wneud ein rhan mewn ymgyrch fyd-eang dros hawliau plant yn y blynyddoedd i ddod.”

Ychwanegodd Pennaeth Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, yr Athro Elwen Evans: “Mae’n bleser mawr gennym gael cefnogaeth Mrs Clinton fel hyrwyddwr hawliau dynol plant a phobl ifanc.

“Mae Ysgol y Gyfraith Abertawe yn adnabyddus yn rhyngwladol am ei gwaith arloesol yn y maes hwn, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Mrs Clinton i hyrwyddo a diogelu’r hawliau hyn ledled y byd drwy bolisi, ymarfer, eiriolaeth a diwygio’r gyfraith.”