Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi addo y bydd ei phlaid “bob tro” yn sefyll dros annibyniaeth.

Ond, mae Arweinydd yr SNP yn derbyn bod Albanwyr am weld fwy o eglurder dros Brexit cyn bydd ail refferendwm annibyniaeth yn cael ei gynnal.

Daeth sylwadau Nicola Sturgeon wrth iddi annerch ei phlaid mewn cynhadledd yng Nglasgow ddydd Mawrth (Hydref 11).

Fe fu’n rhaid i’r SNP ohirio cynlluniau i gynnal ail refferendwm dros annibyniaeth i’r Alban yn sgil canlyniadau’r etholiad cyffredinol fis Mehefin.

Collodd y blaid 21 o aelodau seneddol yn yr etholiad, ac yn sgil hyn dadleuodd rhai bod cyhoedd yr Alban wedi cefnu ar y syniad o gynnal refferendwm arall.

“Sefyll dros annibyniaeth”

“Mae’r gwahaniaeth rhwng diddordebau’r Alban a San Steffan erioed wedi bod mor amlwg,” meddai Nicola Sturgeon. “Mi allwn ac mi fyddwn bob tro yn sefyll dros annibyniaeth.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn wynebu anrhefn lwyr ac yn arwain y wlad ar hyd llwybr o ddirywiad gwirfoddol. Mae’r angen am annibyniaeth erioed wedi bod mor ddwys.”

Rhai o gyhoeddiadau’r araith

· Dyblu gwariant ar ofal plant i £840m erbyn 2020

· Cronfa £6 miliwn i hybu diwydiant twristiaeth yr Alban

· Sefydliad cwmni ynni dan berchnogaeth cyhoeddus