Ymweliad Theresa May â'r Unol Daleithiau (Llun: PA)
Fe fydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump yn ymweld â gwledydd Prydain y flwyddyn nesaf, ond nid ar ymweliad gwladol.

Mae graddfa’r daith, sydd wedi’i threfnu ar sail gwahoddiad y Prif Weinidog Theresa May, wedi cael ei lleihau oherwydd pryderon am ei ddiogelwch.

Fel rhan o’r trefniadau newydd, fydd e ddim yn aros gyda’r Frenhines, yn ôl papur newydd yr Evening Standard.

Mae’r ymweliad yn debygol o fod yn rhan o daith ryngwladol, yn hytrach na bod yn ymweliad unswydd.

Ar ôl i Theresa May gyhoeddi’r gwahoddiad gwreiddiol yn dilyn ei hymweliad hithau â Washington, roedd pryderon y byddai’n arwain at brotestiadau.

Dywedodd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow ar y pryd na ddylai Donald Trump gael annerch San Steffan yn ystod ei ymweliad. Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street nad yw’r safbwynt wedi newid.

Ond ychwanegodd llefarydd ar ran Theresa May mai ei bwriad o hyd yw estyn gwahoddiad iddo ar gyfer ymweliad gwladol swyddogol.