Liz Castro (Llun: Joan Sorolla CCA2.0G)
Mae ymgyrchydd dros annibyniaeth i Gatalwnia yn ffyddiog y bydd Llywodraeth Catalwnia yn bwrw ymlaen a’n “gwireddu mandad y bobol”.

Daw sylw’r awdures Liz Castro yn dilyn cyfarfod Llywodraeth Catalwnia nos Fawrth (Hydref 10) lle cafodd ‘datganiad o annibyniaeth’ ei harwyddo gan aelodau seneddol.

Er bod y ddogfen wedi derbyn cefnogaeth mwyafrif, mae Arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont, wedi nodi y bydd yna oedi cyn gweithredu ei chynnwys.

Roedd nifer wedi disgwyl datganiad uniongyrchol a chryfach o annibyniaeth, ond mae Lisa Castro yn croesawu’r cam a’n dweud ei fod yn rhoi cyfle am “ddeialog” â Sbaen.

“Dw i’n credu bydd y Llywodraeth Gatalanaidd – sydd wedi eu hethol yn ddemocrataidd – yn gwireddu eu mandad i’r bobol, dyna sydd fod i ddigwydd,” meddai Liz Castro wrth golwg360.

“Neithiwr mi ddywedodd yr Arlywydd bod gyda ni’r hawl i fod yn wlad annibynnol. Bydd yr oedi tan fydd hynna’n digwydd, dim ond yn para am hyn a hyn o amser.

“Nod yr oedi yw rhoi cyfle am ddeialog. Unigolion eraill sydd wedi gofyn i ni oedi. Maen nhw’n gobeithio bydd yna ddeialog, ond dw i ddim yn credu gwneith [yr Arlywydd] gefnu ar annibyniaeth.”

Deialog

Er bod Liz Castro yn parhau i fod yn obeithiol y bydd Catalwnia yn troi’n wlad annibynnol, nid yw’n ffyddiog bod gan Sbaen yr “awydd” i drafod.

“Dw i’n credu ei fod yn bosib [na fydd deialog],” meddai. “Dydi Sbaen ddim wedi cyfleu unrhyw awydd i drafod, neu unrhyw awydd am ddeialog a democratiaeth.

“Dw i hefyd heb weld awydd am hynna gan Ewrop. Tybed a fydd gweddill y byd – yn benodol Ewrop – yn rhoi pwysau ar Sbaen fel eu bod yn ymddwyn fel gwlad ddemocrataidd.”