Mae Llywodraeth Catalwnia wrthi’n penderfynu pryd fyddan nhw’n cyhoeddi bod y wlad yn annibynnol o Sbaen.

Ond mae llywodraeth Sbaen yn dal i fynnu bod y refferendwm a gafodd ei gynnal ddydd Sul yn anghyfreithlon ac yn anghyfansoddiadol.

Mae disgwyl araith gan Arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont yn ddiweddarach heddiw, ac mae e eisoes wedi dweud y daw’r datganiad am annibyniaeth dros y dyddiau nesaf.

Mae Mariano Rajoy, arweinydd Sbaen, wedi dweud y bydd yn ymateb ym mhob ffordd bosib i ddatganiad o annibyniaeth gan Lywodraeth Catalwnia.

Pe bai’r datganiad yn dod, fe allai Sbaen geisio cipio grym oddi ar lywodraeth Catalwnia, neu fe allai gyhoeddi argyfwng yn Sbaen a chyflwyno camau milwrol.

Neithiwr (nos Fawrth), fe gyhuddodd brenin Sbaen, Felipe VI lywodraeth Catalwnia o “ymddwyn yn anghyfrifol”. 

Pleidleisiodd 2.3 miliwn o bobol yn y refferendwm. Roedd 90% o’r rheiny a bleidleisiodd o blaid annibyniaeth.

Mae bron i 1,000 o bobol wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau yn dilyn brwydro ffyrnig rhwng pleidleiswyr a’r awdurdodau ledled Catalwnia.