Streic Barcelona, Catalwnia (Llun i law golwg360 gan Rory Steel)
Mae miloedd o bobol wedi bod ar strydoedd Catalwnia i brotestio yn erbyn trais heddlu Sbaen yn ystod y refferendwm annibyniaeth ddydd Sul.

Un fu’n rhan o’r protestiadau ddydd Mawrth (Hydref 3) yw Emyr Gruffydd sy’n wreiddiol o Gaerffili ac a fu’n byw yng Nghatalwnia am dair blynedd rhwng 2012 a 2015.

“Mae miloedd ar filoedd wedi bod yn protestio yma. Mae pobol yn grac tuag at Lywodraeth a Heddlu Sbaen am y modd y maen nhw wedi ymddwyn,” meddai wrth golwg360.

Esboniodd sut y cafodd yntau ei wthio gan yr heddlu ddydd Sul – “gwnaethon nhw dynnu fi ar draws yr iard a rhwygo fy nillad i pan o’n i’n trio edrych ar ôl hen ddyn ac am imi wrthod codi o’r llawr,” meddai.

‘Tyngedfennol’

Dywedodd ei fod yn bwriadu aros yng Nghatalwnia tan ddiwedd yr wythnos gan esbonio fod y dyddiau nesaf yn “dyngedfennol” gyda disgwyl i Lywodraeth Catalwnia ddatgan annibyniaeth o fewn y dyddiau nesaf.

A dywedodd ei fod yn rhyfeddu at yr ymdeimlad ar y strydoedd – “mae pobol Catalwnia yn bobol heddychlon iawn. Dydyn nhw ddim wedi cael eu pryfocio i wneud unrhyw beth ac maen nhw wedi arddangos heddwch yn wyneb trais yr heddlu a’r llywodraeth,” meddai wedyn.