Llun: Y Gwasanaeth Iechyd (GIG)
Mae Jeremy Corbyn wedi dweud ei fod yn awyddus i ymestyn y polisi o orfod optio allan o roi organau i Loegr.

Mae’n bolisi sy’n bod yng Nghymru ers 2013.

Fe fu papur newydd y Daily Mirror yn ymgyrchu o blaid y polisi ers tro, gan ddatgan bod 400 o bobol yng ngwledydd Prydain yn marw bob blwyddyn wrth aros am drawsblaniad.

Dywedodd Jeremy Corbyn fod yr ymgyrch wedi ei ysgogi i ystyried cyflwyno’r polisi pe bai Llafur yn dod i rym.

“Mae mwy na 5,000 o bobol ar restrau aros am drawsblaniad organau, ond mae prinder rhoddwyr yn golygu dros y blynyddoedd diwethaf mai 3,500 yn unig ohonyn nhw sy’n derbyn y driniaeth sydd eu hangen arnyn nhw i achub eu bywydau.”

Wrth gyfeirio at y polisi yng Nghymru, dywedodd Jeremy Corbyn: “Heddiw, rwy’n ymrwymo. Bydd Llywodraeth Lafur yn gwneud yr un fath i Loegr.”

Byddai’r newid yn rhagdybio bod caniatâd wedi cael ei roi i gynnig organau ar gyfer trawsblaniad oni bai bod pobol yn nodi nad ydyn nhw am fod yn rhan o’r cynllun.