Jeremy Corbyn Llun: PA
Fe fydd Jeremy Corbyn yn dweud wrth gynhadledd y Blaid Lafur yn Brighton heddiw ei fod e’n barod i lywodraethu.

Fe fydd e hefyd yn galw ar Weinidogion Ceidwadol i “dynnu eu hunain ynghyd neu sefyll i’r naill ochr”.

Mae disgwyl hefyd y bydd e’n cyhuddo’r Ceidwadwyr o wneud llanast o Brexit wrth geisio “edrych ar ôl eu hunain”.

Fe allai polisïau Llafur newydd gael eu cyhoeddi yno hefyd.

Paratoi am lywodraeth

 

Enillodd Llafur 30 o seddi ychwanegol yn yr etholiad cyffredinol brys fis Mehefin, gan achosi senedd grog.

Ac mae Canghellor yr wrthblaid, John McDonnell eisoes wedi dweud bod Llafur yn paratoi ar gyfer pob math o sefyllfaoedd pe baen nhw’n dod i rym yn y dyfodol.

Fe fydd Jeremy Corbyn yn portreadu ei blaid fel un sy’n barod i gipio grym, gan ddweud eu bod nhw wedi cael eu canlyniadau gorau ers 1945 yn yr etholiad cyffredinol.

“Mae’n ganlyniad sydd wedi rhoi rhybudd i’r Torïaid, ac wedi rhoi Llafur ar fin cipio grym.

“Wnaethon ni ddim yn ddigon da ac ry’n ni’n parhau’n wrthblaid am y tro. Ond ry’n ni’n ddarpar-lywodraeth. Ac ni allai ein neges i’r wlad fod yn fwy eglur: mae Llafur yn barod.”

Mae hynny, meddai, yn golygu ennill 76 o seddi ymylol sy’n cael eu targedu.

Brexit

 

Yr Undeb Ewropeaidd fydd testun trafod arall y gynhadledd heddiw, ac mae disgwyl i Jeremy Corbyn gyhuddo’r Ceidwadwyr o fod yn rhanedig ynghylch y mater, ac o roi eu hunain uwchlaw’r cytundeb gorau i wledydd Prydain.

Fe fydd yn dweud bod hynny’n “ddigon o reswm” i’w gorfodi nhw i adael y llywodraeth.

Fe fydd e hefyd yn mynd i’r afael â materion economaidd, gan addo “gwneud gwasanaethau cyhoeddus yn atebol i gymunedau” a “busnesau’n atebol i’r cyhoedd”.