Mae cynlluniau newydd yn cael eu cyflwyno heddiw i gynnig cefnogaeth emosiynol ac iechyd meddwl i ddisgyblion ac athrawon yn ysgolion Cymru.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru fuddsoddi £1.4m i gryfhau’r gwasanaethau CAMHS (gwasanaeth iechyd meddwl plant a glasoed arbenigol) mewn ysgolion.

Yn rhan o hyn bydd swyddogion arbenigol yn cael eu recriwtio i weithio mewn ysgolion yn ystod y rhaglen beilot rhwng diwedd y flwyddyn hon a 2020.

Fe fydd ysgolion uwchradd a chynradd yn rhannau o’r gogledd ddwyrain, de ddwyrain a Cheredigion yn rhan o’r rhaglen beilot.

‘Lles cadarnhaol’

Fe fydd y swyddogion yn helpu athrawon i adnabod arwyddion o iechyd meddwl ymysg plant ynghynt er mwyn atal y broblem rhag datblygu’n fwy difrifol yn ystod eu bywydau.

Fe fyddan nhw’n cael eu hyfforddi ym meysydd gorbryder, hwyliau isel, hunan-niweidio cymhellol ac anhwylderau ymddygiad.

Mae’r cynllun wedi’i gytuno rhwng Vaughan Gething a Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Iechyd ac Addysg.

“Drwy’r fenter newydd hon, rydym yn gwneud ysgolion yn lleoedd sy’n hyrwyddo iechyd meddwl a lles cadarnhaol, ac sy’n atal ac ymyrryd yn fuan ar sail tystiolaeth pan fo’i angen,” meddai Kirsty Williams.

“Bydd hefyd yn sicrhau bod athrawon yn teimlo’n hyderus i ddelio â thrallod emosiynol a’u bod yn gwybod ble i gael cefnogaeth,” meddai.