Jeremy Miles
Yn ôl yr Aelod sy’n cynrychioli Castell-nedd, mae’r Blaid Lafur yn awchu am etholiad cyffredinol arall er mwyn cipio sedd Arfon oddi ar Blaid Cymru, ar ôl dod yn agos iawn at wneud hynny ym mis Mehefin.

A chyn i’r Blaid Lafur gwrdd yn Brighton yr wythnos nesa’, dywed ei fod yn credu ei bod hi’n “debygol” y bydd etholiad arall cyn hir gyda’r “blaid yn gweithredu ar y sail bod hynny’n mynd i ddigwydd”.

Yr iaith yng Nghastell-nedd

Mae hefyd yn trafod sefyllfa’r Gymraeg yn ei etholaeth, sy’n ddarlun cymysglyd, meddai, gyda mwy o Gymraeg yn cael eu siarad mewn ardaloedd gorllewinol ei sedd.

Yn ôl Jeremy Miles, does dim digon o hyrwyddo’r iaith wedi digwydd yn y gorffennol, ac roedd yn rhannu’r un farn â Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, bod angen cael “cydbwysedd” rhwng hybu’r iaith a deddfu arni.

Wrth siarad am ddatganoli, dyw Cymru heb gael setliad “gynhwysfawr” hyd yma, meddai, ac y byddai cael setliad datganoli teg yn “fwy tebygol” pe bai Llafur mewn grym yn San Steffan.

Mae’n gwrthod unrhyw awgrym hefyd fod bod yn Aelod Cynulliad yng Nghymru yn waith “cushy”.

“Dyw e ddim yn teimlo’n cushy o gwbwl… dw i’n credu bod Aelodau Cynulliad yn gwneud gwaith da ar y cyfan,” meddai.