Simon Thomas AC
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â llygredd plastig trwy gyflwyno cynllun dychwelyd poteli.

Trwy’r cynllun mi fyddai pobol yn derbyn arian am ddychwelyd poteli, ac yn ôl y Simon Thomas mi fyddai “cam bychan fel yr un hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr.”

 Mae ymchwil yn dangos bod 70% o sbwriel y moroedd yn blastig a bod 83% o ddŵr tap ledled y byd yn cynnwys darnau bach o blastig.  

Lleihau lefelau llygredd

“Yn y gorffennol mi roedd Cymru yn arwain y ffordd o ran deddfwriaeth amgylcheddol a gallwn wneud hynny unwaith eto,” meddai Simon Thomas.

“Dw i am weld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynlluniau peilot ar gyfer cynllun dychwelyd poteli, er mwyn glanhau’r amgylchedd a lleihau lefelau llygredd.”