Fe fydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid gwerth £1.2m, er mwyn helpu sefydliadau i baratoi ar gyfer llifogydd gaeafol.

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am reoli’r perygl o lifogydd gan nentydd a dŵr wyneb, ac mi fydd cronfa gwerth £880,000 ar gael iddyn nhw.

Bydd modd i 22 awdurdod lleol Cymru wneud cais hyd at £40,000 yr un er mwyn cyflawni tasgau gan gynnwys casglu data, a chwblhau gwaith cynnal a chadw.

Corff Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn gyfrifol am leihau peryg o lifogydd gan brif afonydd a’r môr, ac mi fyddan nhw’n derbyn buddsoddiad £300,000.   

Amddiffynfeydd

“Dw i’n falch iawn o ddarparu’r cyllid hanfodol hwn ar gyfer arolygu ein hasedau a chadw a chynnal ein hamddiffynfeydd cyn y gaeaf,” meddai Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Lesley Griffiths.

“Mae’r gwaith hwn yn rhan hanfodol o’r hyn y mae Awdurdodau Rheoli Risg yn ei wneud i sicrhau bod ein hasedau’n parhau i weithio’n effeithiol mewn tywydd garw iawn.”