(llun: PA)
Huw Prys Jones yn dadlau bod pwnc pwysicaf yr etholiad yn cael ei anwybyddu

Mae’n anochel y bydd yr ymosodiad ym Manceinion yn newid rhywfaint ar natur ymgyrch yr etholiad.

Dydi hynny fodd bynnag ddim yn esgusodi methiant llwyr y gwrthbleidiau i fynd i’r afael â’r hyn ddylai fod yn bwnc pwysicaf yr etholiad.

A’r pwnc hwnnw yw’r ffordd y mae’r Blaid Dorïaidd bellach yn llwyr yng nghrafangau eithafwyr sy’n benderfynol o dorri unrhyw gysylltiadau rhwng Prydain a thir mawr Ewrop.

Mi allai’r etholiad eleni fod yn gyfle gwych i’r gwrthbleidiau edliw a thaflu bai am y llanast yr ydym ynddo.

Yn lle hynny, mae eu tawedogrwydd ar y mater yn debygol o arwain at benrhyddid i Theresa May gamddefnyddio mwy ar ei grym.

Ni ddylid bychanu difrifoldeb y sefyllfa. Mae’n amlwg fod y garfan wrth-Ewropeaidd wedi bod yn cynllwynio ers blynyddoedd am ffyrdd o gipio grym pe byddai’r refferendwm yn digwydd o’u plaid.

Maen nhw wedi sicrhau bod y dehongliad mwyaf eithafol bosibl o’r canlyniad yn cael ei dderbyn fel efengyl, ac yn benderfynol o fygu unrhyw ddehongliadau eraill mwy gonest.

Oni bai fod yna bobl sy’n barod i herio’u hagweddau a’u dehongliadau, maen nhw am fynd yn fwyfwy eithafol.  Rhowch chi fodfedd i’r bobl hyn ac mi gymeran nhw lathen. Ac mi allan nhw fod yn hyderus bod ganddyn nhw bapurau newydd fel y Sun a’r Daily Mail i bregethu eu gwenwyn ddiwrnod ar ôl diwrnod i’r hygoelus a’r anwybodus.

Methiant

Rydan ni i gyd yn talu’r pris am fethiant y gwleidyddion hynny sy’n gwybod yn iawn bod Brexit yn syniad gwael, i ddwyn anfri ar ddilysrwydd canlyniad y refferendwm.  Trwy dderbyn y celwyddau a’r rhagfarnau a oedd yn sail iddo, maen nhw wedi sigo ymhellach ffydd pobl mewn democratiaeth.

Y Blaid Lafur ydi’r mwyaf euog o’r gwrthbleidiau o bell ffordd, gyda Jeremy Corbyn fel petai’n cofleidio’r canlyniad o’r cychwyn. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn fwy goleuedig ac mae eu haddewid o ail refferendwm  yn sicr yn rhywbeth i’w groesawu. Er hynny, dydyn nhw ddim fel petaen nhw’n llwyddo i gyfleu neges gwbl ddiamwys o’u safbwyntiau.

Mae Aelodau Seneddol Plaid Cymru wedi gwneud safiad clodwiw drwy bleidleisio yn erbyn Erthygl 50 ac wedi bod yn bur gyson eu safbwynt. Mae Dafydd Wigley hefyd, eu hunig arglwydd bellach, wedi bod yn dadlau’n huawdl dros yr egwyddor o ail refferendwm.

Yn anffodus fodd bynnag, mae arwyddion fod Plaid Cymru hefyd wedi simsanu yn ystod ymgyrch yr etholiad.

Dywed eu harweinydd Leanne Wood fod angen ‘parchu’ canlyniad y refferendwm a ‘symud ymlaen’ gan sôn am ‘gynllun ôl-Brexit cadarnhaol i Gymru’ (beth bynnag mae hynny yn ei olygu).

Ystyr ‘parchu’ canlyniad y refferendwm a ‘symud ymlaen’ ydi ildio’n ddigwestiwn i gelwyddau a rhagfarnau’r cenedlaetholwyr Seisnig fu’n arwain ymgyrch Brexit, a gwrthod gwneud safiad yn erbyn newyddion ffug y Daily Mail a’r Sun.

Go brin fod hyn yn dderbyniol i drwch cefnogwyr Plaid Cymru.

Meddyliwch yn ôl dair blynedd a chanlyniad refferendwm yr Alban, pryd roedd mwyafrif mwy yn erbyn annibyniaeth nag oedd o blaid Brexit y llynedd.

Allwch chi ddychmygu Alex Salmond a Nicola Sturgeon yn dadlau bod angen i bawb barchu’r canlyniad, a’i dderbyn fel y gair olaf, a chanolbwyntio ar y manteision a allai ddeillio o aros fel rhan o Brydain?

Problemau sylfaenol

Hyd y gwelaf i, mae sawl problem sylfaenol gyda’r datblygiad diweddaraf yn agwedd Plaid Cymru at Brexit.

I ddechrau, mae’n awgrymu’r camddealltwriaeth sylfaenol mai mater economaidd yn unig yw perthynas Cymru, Prydain ac Ewrop. Nid bygythiad economaidd yn unig ydi Brexit ond ymosodiad ar ein gwerthoedd, ein diwylliant a’n hunaniaeth. Un o gymhellion mwyaf sylfaenol cenedlaetholdeb Cymreig ydi gwrthsefyll y math o genedlaetholdeb Seisnig haerllug sy’n nodwedd mor hanfodol o arweinwyr Brexit.

Mae hefyd yn debygol o gyfrannu at wrthdaro rhwng agweddau aelodau Plaid Cymru ar lawr gwlad mewn ardaloedd fel Gwynedd a’r hyn fydd yn cael ei weld fel gor-awydd i apelio at bleidleiswyr yng nghymoedd ôl-ddiwydiannol y de.

Cwestiwn arall y bydd yn rhaid iddi ei wynebu hefyd fydd oblygiadau Brexit i’w hamcanion cyfansoddiadol. Mae’r freuddwyd o annibyniaeth yn yr Undeb Ewropeaidd yn ddigon anodd ei dychmygu pan fo Prydain yn dal yn aelod o’r Undeb. Os bydd y math o Brexit ynysig y mae Theresa May yn ei addo yn digwydd, mae’r nod yn symud i dir ffantasi pur. Pa obaith fyddai perswadio pobl Cymru i ffeirio undeb â Lloegr am undod â thir mawr Ewrop os ydi Plaid Cymru’n derbyn canlyniad y refferendwm llynedd fel adlewyrchiad dilys o’u dyheadau? Ac os nad annibyniaeth yn yr Undeb Ewropeaidd, annibyniaeth yn lle? Go brin fod annibyniaeth lwyr yn opsiwn yn y byd sydd ohoni. Unig obaith am ddatblygiad cyfansoddiadol Cymru mewn byd ôl-Brexit felly fyddai fel rhyw fath o dalaith mewn Prydain ffederal.

Ai hyn tybed fydd canlyniad ‘cynllun ôl-Brexit cadarnhaol i Gymru’?

Ar y llaw arall, mae’n debygol iawn mai’r unig obaith i ddyfodol cenedlaetholdeb Cymreig fyddai methiant llwyr y Brydain newydd y mae’r Torïaid yn ceisio’i chreu. Os yw Plaid Cymru am fanteisio ar fethiant o’r fath yn y dyfodol, bydd yn rhaid iddi fod yn gwbl eofn a chyson ei gwawd a’i dirmyg o weledigaeth y cenedlaetholwyr Seisnig sy’n ein llywodraethu heddiw.