Theresa May Llun: Jonathan Brady/PA Wire
Mae Theresa May wedi cadarnhau y bydd y Ceidwadwyr yn gosod uchafswm ar brisiau nwy a thrydan os ydyn nhw’n parhau mewn grym ar ôl yr Etholiad Cyffredinol ar 8 Mehefin.

Yn ôl y Prif Weinidog fe fydd yn arbed £100 y flwyddyn i deuluoedd gyda 17 miliwn o gartrefi yn elwa o’r uchafswm ar brisiau.

Pan gafodd y cynllun ei gyhoeddi fis diwethaf, cafodd y Ceidwadwyr eu cyhuddo o ddwyn cynlluniau’r cyn-arweinydd Llafur Ed Miliband o rewi prisiau.

Ond mae rhai cwmnïau ynni wedi beirniadu cynlluniau’r Llywodraeth gan rybuddio y gall arwain at filiau uwch i gwsmeriaid a lleihau cystadleuaeth.