Gethin James
Mae cyn-gadeirydd UKIP yng Ngheredigion wedi rhoi’r gorau i’r swydd oherwydd ei fod yn credu bod y blaid wedi colli cyfeiriad a phwrpas ers ennill y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd Gethin James yn sefyll i fod yn gynghorydd annibynnol yn Aberporth ger Aberteifi yn yr etholiadau lleol yfory (Mai 4) – rhywbeth y mae wedi’i wneud ers cael ei ethol gyntaf yn 2004, gan ddewis peidio â dod â gwleidyddiaeth plaid i mewn i lywodraeth leol.

Ond, ac yntau wedi bod yn llefarydd amlwg i blaid UKIP ar y cyfryngau Cymraeg ers rhai blynyddoedd, mae bellach o’r farn bod y blaid – a’i harweinydd newydd, Paul Nuttall – ar y llwybr anghywir. Ac mae’n ystyried gadael yn llwyr.

“Dyw polisïau Paul Nuttall ddim yn gweithio,” meddai Gethin James wrth golwg360. “Dw i ddim yn hapus gyda’i bolisïau.

‘Ar ôl y refferendwm, ro’n i wedi gobeithio bod y blaid yn mynd i ffindo ffordd ymlaen, ond mae hi wedi cwympo i bishys, ac roedd gadael wedi bod yn chwarae ar fy meddwl ond o’n i ddim ishe gwneud hynny’n gyhoeddus cyn yr etholiad cyffredinol.

“Mae llawer o MEPs wedi cael digon,” meddai wedyn.

Gadael Ewrop oedd y prif beth

Dod allan o Ewrop oedd yn bwysig i Gethin James, ac mae’n gweld polisïau arweinydd newydd UKIP yn son am wahardd penwisgoedd merched Mwslimaidd, mewn cae arall.

“Ar ddiwedd y dydd, i fi, dod mas o Ewrop odd y main thing,” meddai Gethin James.

“Gyda’r general election yma’n cael ei ymladd fel bron a bod ail refferendwm, fe ddylen ni fod wedi cario mla’n gyda’r polisïau o’dd gyda ni.

“O’dd maniffesto gyda ni yn 2015, ond nawr os ydyn ni jyst yn dod mas a pholisïau fel ‘ban the burkha’, ‘stop Sharia law’ a ‘FGM’ (yr arfer o dorri organau rhyw merched mewn rhai traddodiadau yn Affrica, female genital mutilation) fel main issues, yna dyw e ddim i fi.

Eurosceptic ydw i,” meddai Gethin James, “ac r’yn ni wedi cael y ddadl yna… ni wedi ennill y prif bwynt o’n ni moyn neud… Dyna beth odd UKIP ambwyti i fi, a dw i’n meddwl yn galed ambwyti cario mla’n.’