Bethan Jenkins AC
Mae un o Aelodau Cynulliad ieuenga’ Plaid Cymru, Bethan Jenkins, wedi tynnu sylw ar y cyfryngau cymdeithasol at brinder menywod ar y rhestr o ymgeiswyr sydd wedi’u dewis ar gyfer etholiad Mehefin 8.

Fe gynhaliwyd sawl cyfarfod hystings yn y canolbarth ac yn ne Cymru neithiwr, ac mae disgwyl i ymgeisydd Môn, ymhlith eraill, gael ei ddewis heno (nos Fercher).

Ond pwysleisiodd Bethan Jenkins wrth golwg360 mai “sylw cychwynnol” oedd hwnnw ganddi ar wefan Facebook, yn rhan o’r llif o enwau oedd yn cael eu cyhoeddi nos Fawrth, ac nad yw hi wedi gweld y rhestr lawn o ymgeiswyr eto.

Pedair gwraig 

Pedair gwraig sydd wedi’u dewis yn ymgeiswyr hyd yn hyn, allan o 15 o etholaethau sydd wedi cynnal hystings – Amy Kitcher (Merthyr Tudful), Kate Heneghan (Brycheiniog a Maesyfed), Abi Thomas (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) a Fflur Elin (Pontypridd).

Dyma’r rhestr fel ag y mae hi ar hyn o bryd:

Wyn E Jones – Aberconwy

Rhydian Ellis Fitter – Gorllewin Abertawe

Kate Heneghan – Brycheiniog a Maesyfed

Mark Cooper – Canol Caerdydd

Steffan Webb – Gogledd Caerdydd

Michael Deem – Gorllewin Caerdydd

Abi Thomas – Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

Lindsay Whittle – Caerffili

Daniel Gwydion Williams – Castell Nedd

Ben Lake – Ceredigion

Harri Roberts – Gŵyr

Darren Jones – Islwyn

Aled Morgan Hughes – Maldwyn

Amy Kitcher – Merthyr Tudful

Fflur Elin – Pontypridd