George Osborne (Llun: PA)
Mae cyn-Ganghellor y Trysorlys, George Osborne, yn rhoi’r gorau i fod yn Aelod Seneddol, er mwyn canolbwyntio ar ei swydd newydd yn olygydd papur newydd y London Evening Standard.

Mewn llythyr at ei etholwyr yn Tatton, Swydd Caer, mae’n dweud ei fod yn teimlo “cyffro mawr” wrth feddwl am gael golygu’r papur newydd.

Fodd bynnag, er ei fod am roi’r gorau i’w cynrychioli yn San Steffan yn yr etholiad cyffredinol nesaf, mae’n awgrymu yn y llythyr y gallai ddychwelyd i fyd gwleidyddiaeth yn y dyfodol.

Mae’n dweud mai gadael San Steffan “am nawr” y mae.