Mae’r BBC Cymru am ddechrau dangos rhaglen debyg i Question Time a Pawb a’i Farn.

Bydd y rhaglen yn cael ei dangos ar BBC One Wales unwaith y mis – “neu i gyd-fynd â datblygiadau gwleidyddol mawr” – ac yn cael ei darlledu o wahanol leoliadau ledled y wlad.

Dywedodd Pennaeth Comisiynu Teledu ac iPlayer BBC Cymru, Nick Andrews:

“Mae hwn yn gyfnod digyffelyb mewn cymaint o ffyrdd, ac mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi sgwrs genedlaethol ar adeg o newid cymdeithasol a gwleidyddol dwys. Rydym yn disgwyl i’r rhaglen newydd hon fod yn drawiadol – gan adlewyrchu gwir amrywiaeth barn ar draws ein gwlad – ac i greu argraff sylweddol ar deledu, radio, ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol.”