Capel y Morafiaid, Kevin Street, Dulyn
William Griffith ydi’r cymeriad yn y stori sy’n gyfrifol am greu’r cysylltiad rhwng dyffryn diwydiannol yn Eryri, a dinas Dulyn a ddaeth yn gartre’ i’w or-or-wyr o wleidydd.

Trwy godi addoldy a chartre’ i gangen o enwad y Morafiaid ar lan Llyn y Dywarchen ar ben ucha’ Dyffryn Nantlle, roedd perchennog fferm Drws-y-Coed Uchaf yn gwneud safiad yn erbyn erledigaeth.

Roedd ei wraig, Alice Prys, yn ddynes ddefosiynol iawn, ac yn gweld perthnasedd yng nghredoau’r urdd oedd â’i wreiddiau yn Morafia yn nwyrain Ewrop (y Wladwriaeth Tsiec heddiw).

Roedd canghennau wedi’u sefydlu yn Nyffryn Clwyd ac yn ardal Hwlffordd, Sir Benfro, cyn i David Mathias dderbyn gwahoddiad gan William Griffith, i ymsefydlu hefyd yn Nyffryn Nantlle yn y 1760au. Y syniad oedd creu cymuned o ddilynwyr ar batrwm dilynwyr Howell Harris yn Nhrefeca.

Roedd y Morafiaid cynta’ wedi ffoi rhag erledigaeth grefyddol o Morafia i Sacsoni yn 1722, ond mae gwreiddiau’r eglwys yn Bohemia a’r ardaloedd cyfagos yn y 1450au. Erbyn heddiw, mae’r mudiad yn hawlio bod ganddo 750,000 o ddilynwyr ledled y byd, gyda’r pwyslais ar weithio gydag enwadau eraill, purdeb personol, cenhadaeth a defnydd o gerddoriaeth i rannu’r neges.

Symbol eglwys y Morafiaid ydi Oen Duw gyda baner buddugoliaeth, wedi’u hamgylchynu gan yr arysgrif Lladin ‘Vicit agnus noster, eum sequamur (Mae’r Oen wedi concro, gadewch i ni ei ddilyn).

Mae’r llun a’r geiriau hynny ar gapel y Morafiaid yn Kevin Street, Dulyn, heddiw, lle’r oedd rhai aelodau o deulu estynedig Arthur Griffith yn aelodau.

Ty Drws-y-Coed

O’r tu allan, dim ond adeilad amaethyddol oedd Ty Drws-y-Coed, a godwyd gan William Griffith ar lan Llyn y Dywarchen. Ond y tu mewn, ar y llawr gwaelod, roedd o’n llety i gymuned o Morafiaid oedd yn chwilio am loches; roedd y llawr uchaf yn addoldy mewn cyfnod pan oedd eu ffydd yn dderbyniol.

Ac ar lechen uwchben y drws, roedd pennill o waith yr hen ddyn:

“Dymuniad calon yr adeiladydd

yr hwn a’ch cododd benbwygilydd,

bod yma groeso i Dduw a’i grefydd

tra bo carreg ar ei gilydd.”

Fe fu’r ty yn sefyll ymhell i’r 20fed ganrif, lle mae bellach faes parcio ar gyfer pysgotwyr sydd am fentro i ddyfroedd y llyn.

Anfon y merched

O blith y naw o ferched a aned i William Griffith ac Alice Prys yn fferm Drws-y-Coed Uchaf rhwng 1754 a 1773, fe adawodd pump ohonyn nhw Gymru er mwyn mynd i weithio i urdd y Morafiaid.

Y gynta’ i fentro i Ddulyn oedd y ferch hynaf, Gaynor Griffith, gan briodi i mewn i deulu’r Jacksons yn y ddinas honno. Fe ddaeth drosodd yn ôl i Fryste cyn diwedd ei hoes, gan ddiweddu ei dyddiau yn y ddinas honno yn 1840.

Yr un oedd hanes ei chwaer, Margaret Griffith, a briododd i mewn i deulu’r Dixons yn Nulyn, a marw yn 1842. Fe aeth Jane Griffith hefyd i weithio i chwiorydd y Morafiaid yn Nulyn yn 1801, cyn marw yn ddi-briod ym Mryste yn 1839; ac fe fu Mary Griffith hithau yn rhedeg ysgol i blant oed cynradd yn ninas Dulyn, lle bu farw yn 1847.

Ym Mryste y bu Catherine Griffith yn gwasanaethu, ac yno y bu hi farw yn 1831.

Y gyfres o erthyglau

Gwleidydd y slymiau yn hanu o deulu bonedd yn Eryri

“Teimladau cymysg” Sinn Féin heddiw at Arthur Griffith 

Sinn Féin: “Ni ein hunain”, nid “Ni yn unig” meddai Arthur Griffith