Golwg ar y Bae – cyfres fideo wythnosol gan golwg360 yn crynhoi digwyddiadau’r Senedd.
Yn y rhifyn diweddaraf o’r wythnos ym Mae Caerdydd, mae Gareth Hughes yn dadansoddi Cwestiynau’r Prif Weinidog oedd dan ofal Jane Hutt – doedd Carwyn Jones ddim yna am resymau teuluol.
Byddwn ni’n clywed gan Paul Davies, AC y Ceidwadwyr Cymraeg cyn cynhadledd y blaid yng Nghaerdydd dros y Sul – mae e’n lladd ar Lywodraeth Cymru am ei chynllun i ddod â’r cynllun Hawl i Brynu i ben ac yn dweud bod yn “rhaid” i Brexit lwyddo.
Cafodd Neil McEvoy gynhadledd digon unigryw yn y Senedd yr wythnos hon – un ar ei liwt ei hun yn lansio ei ymgyrch yng Nghyngor Caerdydd cyn yr etholiadau lleol – gan dorri sawl rheol yn y llyfr!
A beth yw ymateb Cymru i’r posibilrwydd o refferendwm arall yn yr Alban? Nid nawr yw’r amser cywir am refferendwm yng Nghymru, yn ôl Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru.