Wrth i ddadleuon am fewnfudo ddal i gipio’r penawdau, bu Huw Prys Jones yn chwilio trwy ffigurau’r Cyfrifiad i weld beth yw’r wir sefyllfa yng Nghymru

Mae mewnfudo’n bwnc sydd angen rhoi sylw iddo, yn ôl Carwyn Jones a Leanne Wood wrth lansio eu cynllun ar gyfer Brexit yng Nghymru ddechrau’r wythnos yma.

Mae’n amlwg mai’r hyn oedd ganddyn nhw mewn golwg yn y cyd-destun hwn oedd symudiad pobl o wledydd yr Undeb Ewropeaidd i Gymru a gweddill Prydain.

Er bod hynny’n ddigon teg, mae angen sylweddoli mai elfen fach iawn o’r holl fewnfudo i Gymru yw’r un sydd o ganlyniad i aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.

Os mai sôn yr ydan ni am effeithiau mewnfudo ar yr economi, ar gymdeithas ac ar hunaniaeth y boblogaeth gynhenid, mae’n bwysig ein bod yn edrych ar y darlun cyflawn.

A rhaid edrych o ddifrif ar y ffigurau sydd ar gael cyn ceisio ffurfio unrhyw farn gymesur ar y pwnc.


Oes, mae cyfran uchel o fewnfudwyr yng Nghymru, sy’n cyfrif am fwy na chwarter y boblogaeth, fel y gwelwn yn y siart.

Ar y llaw arall, nid yw’r bobl sydd wedi symud i Gymru o wledydd yr Undeb Ewropeaidd y tu allan i Brydain ond yn cyfrif am 2% o’n poblogaeth, ac ond am 7% o’n holl fewnfudwyr.

Mae unrhyw drafodaeth am fewnfudo i Gymru yn gwbl ddiystyr os nad ydan ni’n cael crybwyll y ffaith mai o Loegr y daw dros dri chwarter – 76% – ein mewnfudwyr.

Lawn mor berthnasol yng nghyd-destun Brexit yw bod bron i ddwywaith cymaint o bobl o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd ag sydd o’i mewn ymhlith ein mewnfudwyr.

Pe byddai’r llywodraeth yn ildio i holl ofynion Ukip a mynnu torri pob cysylltiad â’r Undeb Ewropeaidd, mae’n debyg y bydden nhw’n plesio rhai o gefnogwyr mwyaf anwybodus Brexit am gyfnod byr.

Ond o ran cael effaith sylweddol i leihau’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus neu ar swyddi prin y byddai mesurau o’r fath yn cael unrhyw ddylanwad.

Rhanbarthau Lloegr

Diddorol yw cymharu’r sefyllfa yng Nghymru â’r hyn yw yn rhai o ranbarthau Lloegr.

Mae’r gyfran o 83% o boblogaeth Lloegr sydd wedi eu geni yn Lloegr yn sylweddol uwch na chanran y boblogaeth gynhenid yng Nghymru.

Ac mae’r gyfran yn llawer uwch na hyn yn y rhan fwyaf o ranbarthau Loegr gan fod y ganran isel yn Llundain yn gyfrifol am ostwng y ganran genedlaethol.

Yn Llundain, dim ond 61% o’r boblogaeth sydd wedi eu geni yn Lloegr. Ar y llaw arall, mae dau draean o’r holl fewnfudwyr yno’n dod o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Os edrychwn ar ddau o brif gadarnleoedd Brexit, roedd 87% o bobl Dwyrain Lloegr a 93% o bobl Gogledd-ddwyrain Lloegr wedi eu geni yn Lloegr. Hyd yn oed yn Nwyrain Lloegr, nid yw mewnfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd ond yn cyfrif am 4% o’r boblogaeth – ac nid oedd fawr mwy na 1% yn y Gogledd-ddwyrain.

Yng Nghaerdydd y gwelwn y ganran uchaf yng Nghymru o bobl a aned y tu allan i wledydd Prydain, lle mae’r bobl a aned yn Lloegr yn cyfrif am ychydig dros hanner y mewnfudwyr. Ar y llaw arall, daw teirgwaith mwy o’r mewnfudwyr eraill o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd ag o’r tu mewn iddi.

Ym mhrif gadarnle Brexit Cymru, Blaenau Gwent, roedd 90% o’r boblogaeth wedi eu geni yng Nghymru, a phobl o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd ond yn cyfrif am 1% o’r boblogaeth.

Angen ymdriniaeth drylwyr

Does dim dwywaith fod mewnfudo’n bwnc cymhleth iawn a bod angen ymdrin ag o’n drylwyr a gofalus.

Rydan ni i gyd yn talu pris uchel am hoffter rhai carfannau asgell chwith gwleidyddol gywir yn y gorffennol o daflu cyhuddiadau o hiliaeth ar unrhyw un a oedd yn crybwyll y gair mewnfudo.

Ar y mathau hyn o agweddau hunan-gyfiawn y mae llawer o’r bai bod llanast Brexit wedi digwydd.

Ond gwaeth fyth ydi’r ffordd y mae’r pendil bellach wedi mynd i’r pegwn arall yn llwyr, lle mae rhwydd hynt i feio mewnfudo am bopeth dan haul.

Does dim arwydd o unrhyw ymwybyddiaeth o gymhlethdod y pwnc ar hyn o bryd ychwaith, gyda’r mwyafrif llethol o wleidyddion yn siarad o anwybodaeth lwyr.

Dydi dweud eu bod nhw’n gwrando ar lais y bobl yn y refferendwm ddim yn ddigon da. Mae cipolwg sydyn ar y ffigurau uchod yn awgrymu bod barn llawer o’r bobl hynny lawn mor debygol o fod yn seiliedig ar yr hyn y maen nhw’n ei ddarllen yn y Sun neu’r Daily Mail ag ar unrhyw brofiadau personol.