Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru wedi lansio llyfryn i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf

Mae Carwyn Jones wedi lansio ‘Rhaglen 2017’ sef llyfryn diweddaraf cyfres ‘Cymru’n Cofio 1914-1918’ sy’n rhestru digwyddiadau a phrosiectau sy’n cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn.

Prif ffocws y flwyddyn o gofio flwyddyn yma fydd Trydedd Frwydr Ieper (brwydr Passchendaele), lle bu farw nifer o Gymry gan gynnwys y bardd, Hedd Wyn.

Bydd y frwydr yn cael ei choffáu yn y Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol wrth y Gofeb Gymreig yn Langemark, Belg ar Orffennaf 31.

“Cyfle inni gofio”

“Mae Cymru’n Cofio 1914-1918 yn rhoi cyfle inni gofio’r rheini a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf,” meddai Carwyn Jones.

“Mae’n bwysig bod cenedlaethau’r dyfodol yn deall dylanwad y rhyfel ofnadwy hwn ar y Gymru fodern a rhaid dysgu gwersi’r gorffennol i fynd â ni at ddyfodol mwy heddychlon.”