William Powell Llun: O'i wefan
Mae penderfyniad gwledydd Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi newid natur y sgwrs am annibyniaeth i Gymru, yn ôl y Democrat Rhyddfrydol, William Powell.

Roedd y cyn-Aelod Cynulliad dros Orllewin a Chanolbarth Cymru a chynghorydd sir presennol Talgarth ym Mhowys yn un o’r siaradwyr ddydd Sadwrn yn y digwyddiad blynyddol i goffáu marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf yng Nghilmeri yn 1282.

Fe dynnodd sylw yn ei araith at y ffaith fod yr hinsawdd wleidyddol ar draws y byd wedi newid yn sylweddol ers y llynedd, a bod hynny’n golygu bod rhai wedi mynd ati i “ddatod neu danseilio elfennau o ddatganoli sydd gennym ar hyn o bryd, ynghyd â Mesur Cymru”.

Yn ôl William Powell, mae cyfres o ffactorau, gan gynnwys Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, Donald Trump yn cael ei ethol yn Arlywydd nesa’r Unol Daleithiau a thwf pleidiau asgell dde, yn golygu bod dyfodol datganoli yng Nghymru mewn perygl oni bai bod “tir canol” yn cael ei ddarganfod.

Amaeth a’r amgylchedd

Dywedodd wrth Golwg360: “Dw i’n meddwl yn benodol am faes polisi amaeth a’r amgylchedd yn ei gyfanrwydd, y CAP a’r ffaith fod rhaid i ni ddiogelu hwnnw.

“Mae sylwadau wedi dod yn ddiweddar gan arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad Cenedlaethol [Andrew RT Davies] sy’n awgrymu ei fod yn ffafrio agwedd Cymru a Lloegr at amaeth a pholisïau amaeth.

“Dyna un enghraifft o’r pryderon y cyfeiriais i atyn nhw [yng Nghilmeri]. Do’n i ddim yn teimlo ei bod yn briodol ymhelaethu yng Nghilmeri ond dw i’n teimlo’n gryf fod rhaid i’r rheiny ohonom sydd o blaid datganoli i Gymru gydweithio, ac mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi credu hynny ers degawdau.”

Rhan o hynny, meddai, yw sicrhau bod unrhyw bwerau sy’n cael eu dargyfeirio o Frwsel yn dod i Gymru yn hytrach na mynd i San Steffan ac i ofal Llywodraeth Prydain, yn enwedig ym maes amaeth.

“Mae [dargyfeirio i San Steffan] yn niweidiol iawn i’n diogelwch, ein cymunedau gwledig ac i’n gallu i lunio polisïau amaeth sy’n addas i Gymru.

“Mae cyflwyno polisïau amaeth sydd wedi cael eu llunio yn Lloegr yn tanseilio ein cymunedau gwledig, sef y cadarnleoedd y bûm i’n eu cynrychioli rhwng 2011 a 2016 sydd mewn perygl o gael eu niweidio gan bolisïau a gafodd eu llunio yn Lloegr heb gael eu teilwra ar gyfer anghenion Cymru, yn enwedig y Gymru Gymraeg a’r cadarnleoedd sy’n gwneud Cymru’r hyn yw hi.”

‘Deall’ – ond ddim yn cytuno – gyda’r alwad am annibyniaeth

Nid dyma’r amser, yn ôl William Powell, i ennill annibyniaeth i Gymru, er ei fod yn “deall yn iawn” pam fod rhai yn ceisio gwthio’r ymgyrch yn ei blaen.

“Dw i’n credu bod y bleidlais Brexit yn newid natur y sgwrs am annibyniaeth yn fawr iawn. Ond nid dyma’r amser i wthio am hynny. Mae fy mhlaid yn credu hynny a dw i’n sicr ddim yn cario’r fflam [ar gyfer annibyniaeth].

“Fodd bynnag, dw i yn gofidio am ddatganoli fel ag y mae, gan y dylai fod yna dir canol i’r rheiny sydd am fynd ymhellach a’r rheiny ohonom nad ydyn ni am wneud hynny.”

Achos Brexit yn y Goruchaf Lys

Mae’r ansicrwydd ynghylch dyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd, a’r achos yn y Goruchaf Lys, yn golygu bod “dyfodol taith datganoli o dan fygythiad ar hyn o bryd”, yn ôl William Powell.

“Roedd hi’n berthnasol iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cael ei chynrychioli yn y gwrandawiad yn y Goruchaf Lys a dydyn ni ddim yn gwybod canlyniad hwnnw eto.

“Roedd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw yn siarad am yr achos fel un o’r rhai mwyaf arwyddocaol dros y 300 mlynedd diwethaf a dw i’n credu bod dyfodol taith datganoli dan rywfaint o fygythiad ar hyn o bryd o ganlyniad – bwriadol neu beidio – i Brexit.

“Dw i wedi credu erioed mewn Prydain ffederal ag iddi elfen gref o ymreolaeth i Gymru, a rhagor o ddatganoli pwerau tros ystod eang o bethau, gan gynnwys cyfiawnder troseddol a nifer o faterion pwysig eraill.

“Ond ar hyn o bryd, ry’n ni mewn perygl o weld pethau’n mynd i’r cyfeiriad arall ac mae’n rhaid i ni fod yn wyliadwrus o hynny, ynghyd â’r bobol hynny sydd am weld datganoli’n mynd ymhellach o lawer.

“Yr hyn sydd ei angen yw tir canol sy’n ein tynnu ni ynghyd yn hytrach na phwysleisio’n gwahaniaethau.

“Dw i’n deall yn iawn fod yr ymgyrch o blaid annibyniaeth wedi cael hwb sylweddol o ganlyniad i’r bleidlais Brexit, ac fe allai fod yn niweidiol iawn i genedligrwydd Cymreig oni bai ein bod yn meddwl yn ofalus am oblygiadau’r hyn sydd ar fin digwydd.”