Cyn-arweinydd Llafur, Ed Miliband
Mae stynt cyhoeddusrwydd yr ‘EdStone’ yn un o’r pethau sy’n mynd i gostio £20,000 i’r Blaid Lafur, wedi iddyn nhw gael eu dirwyo gan y corff sy’n goruchwylio faint mae pleidiau gwleidyddol yn ei wario yn ystod ymgyrchoedd.

Fe ddaeth y ffein oherwydd i’r blaid fethu â chofnodi dau daliad, gwerth cyfanswm o £7,614, oddi ar eu ffurflen wariant yn ystod ymgyrch Etholiad Cyffredinol 2015. Roedd y ddau daliad yn ymwneud â’r blocyn o garreg wyth troedfedd o uchder oedd yn nodi addewidion yr arweinydd ar y pryd, Ed Miliband i etholwyr.

Wedi i’r Comisiwn Etholiadol ofyn i’r blaid ail-edrych ar ei ffurflen wariant yn ystod yr ymgyrch etholiadol, fe ddaeth y Comisiwn i’r casgliad iddi hepgor 74 o daliadau gwerth £123,748, a 33 o anfonebau gwerth £34,392 o’r gwaith papur angenrheidiol.

Roedd trysorydd y Blaid Lafur, Iain McNicol,  wedi cyflawni dwy drosedd o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, ac o ganlyniad, mae’r blaid wedi’i dirwyo £20,000.

Dyma’r ddirwy fwya’ i’r Comisiwn Etholiadol ei chyflwyno ers 2001.