Ifan Morgan Jones sy’n dadansoddi pleidlais Plaid Cymru yn y sir…

Ar yr olwg gyntaf, nid oedd pethau cynddrwg a hynny i Blaid Cymru yng Ngheredigion, er gwaethaf eu methiant i gipio’r sedd oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol.

Cwympodd pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol -14.2% yno, o’i gymharu â 15.2% ar draws y Deyrnas Unedig.

O ganlyniad, gellid awgrymu mai methiant Plaid Cymru oedd caniatau i’r Democratiaid Rhyddfrydol adeiladu’r fath fwyafrif yn y lle cyntaf yn 2010.

Serch hynny, mae golwg agosach ar yr ystadegau yn awgrymu darlun duach nag y mae’r canlyniad gwreiddiol yn ei awgrymu.

Mewn gwirionedd, fe syrthiodd pleidlais Plaid Cymru yn ogystal a’r Democratiaid Rhyddfrydol oddi ar 2010 – ddim o ryw lawer, yn achos PC, ond ‘fflat’ yw’r disgrifiad mwyaf caredig.

Mae’n nodedig hefyd bod y Gwyrddion, Llafur ac UKIP wedi gweld cynnydd sylweddol yn eu pleidlais ers 2010.

Mae hynny’n awgrymu bod pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol wedi ei wasgaru rhwng y pleidiau ‘bychan’ yn y sir, yn hytrach na chael ei drosglwyddo i Blaid Cymru.

Yr awgrym yw bod gan Blaid Cymru bleidlais graidd sy’n araf bach, bach encilio oddi ar uchafbwynt 1997 – tra bod gweddill y pleidleisiau yn llifo rhwng y pleidiau uniolaethol sy’n weddill.

Plaid Pleidlais (canran) 2001 Pleidlais (canran) 2005 Pleidlais (canran) 2010 Pleidlais (canran) 2015
Dems Rhydd 9,297 (26.9%) 13,130 (36.5%) 19,139 (50.0%) 13,414 (35.9%)
Plaid Cymru 13,241 (38.3%) 12,911 (35.9%) 10,815 (28.3%) 10,347 (27.7%)
Gwyrddion 846 (2.4%) 696 (1.8%) 2,088 (5.6%)
UKIP 977 (2.6%) 3,829 (10.2%)
Ceidwadwyr 6,730 (19.4%) 4,455 (12.4) 4,421 (11.6%) 4,123 (11.0%)
Llafur 5,338 (15.4%) 4,337 (12.1%) 2,210 (5.8%) 3,615 (9.7%)
Cyfanswm 34,606 35,679 38,258 37,416

Ond beth am allu Plaid Cymru i ddal y sedd yma yn Etholiadau’r Cynulliad? Onid yw hynny’n awgrymu bod yna ragor o bleidleiswyr yng Ngheredigion a fyddai yn fodlon cefnogi’r blaid?

Yn anffodus i’r Blaid, nid yw eu pleidlais yn y Cynulliad llawer uwch nag ydyw yn yr Etholiad Cyffredinol. Rhan o’r rheswm eu bod yn dal y sedd yw bod llai o gefnogwyr y pleidiau eraill yn pleidleisio.

Ni fyddai pleidlais Elin Jones yn Etholiadau’r Cynulliad 2011, sef 12,020, wedi bod yn ddigon i drechu Mark Williams yn yr etholiad eleni.

Beth yw’r ateb?

Nid yw’n amlwg serch hynny pam fod Plaid Cymru yn ei chael hi mor anodd yng Ngheredigion, tra’n ffynnu yn etholaethau eraill ‘Y Fro Gymraeg’.

Mae pleidlais graidd Plaid Cymru, y siaradwyr Cymraeg, ar drai yng Ngheredigion – ond mae hynny’n wir dros y Teifi yng Nghaerfyrddin hefyd.

Rhyngddynt mae Adam Price a Jonathan Edwards rywsut wedi llwyddo i gipi’r sedd honno oddi ar y Blaid Lafur, ac fe gynyddodd Plaid Cymru ei phleidlais oddi ar 2010 eleni.

Mae angen i Blaid Ceredigion drafod gyda Plaid Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr er mwyn darganfod beth yw allwedd eu llwyddiant.

Gellid awgrymu efallai mai dod o hyd i’r ymgeisydd cywir fydd y cam cyntaf i gipio Ceredigion. Nid yn unig hynny, ond ymgeisydd a fydd yn fodlon sefyll droeon ac adeiladu cefogaeth dros amser.

Roedd Mark Williams wedi sefyll teirgwaith cyn ennill yn 2005. Roedd Cynog Dafis hefyd wedi sefyll teirgwaith cyn ennill i Blaid Cymru yn 1992. Efallai fod yna batrwm yma!