Ymgeisydd Llafur, Alun Pugh
Ifan Morgan Jones sy’n ail-ystyried pwy fydd yn ennill sedd dinas Bangor a thref Caernarfon…

Wrth ddadansoddi sedd Arfon ganol mis Ebrill, roeddwn i o’r farn y gallai’r sedd yn hawdd fynd y naill ffordd, gyda Phlaid Cymru a Llafur benben.

Erbyn hyn rwy’n credu bod y Blaid yn fwyaf tebygol o gadw’r sedd. Er bod Alun Pugh yn amlwg wedi bod yn brysur iawn yma, dydw i ddim yn siŵr a oes ganddo ddigon o gefnogwyr sy’n fodlon gwneud y gwaith caib a rhaw ar lawr gwlad.

Rwy’n dilyn ymgyrch sawl ymgeisydd ledled y Deyrnas Unedig ac mae’n nodedig cyn lleied o fwrlwm sydd ynghylch ymgyrch Llafur yn Arfon o’i gymharu â, dywed, ymgyrch Mari Williams yng ngogledd Caerdydd.

Er bod arwyddion Llafur i’w gweld mewn ambell ran o’r etholaeth (yn ôl eu ffrwd Trydar), rhaid cyfaddef nad ydw i wedi gweld yr un ohonynt ar fy nhaith ddyddiol rhwng Waunfawr a Bangor, tra bod arwyddion Plaid yn frith.

Ychydig iawn o sylw y mae’r sedd wedi ei dderbyn gan rai o ffigyrau mwyaf y blaid – fe ymwelodd Carwyn Jones ac Owen Smith yn gynnar yn yr ymgyrch, ac yna dyna ni.

Yn y cyfamser mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wedi ymweld ag un o’u targedau eraill yng Nghymru, Canol Caerdydd, nid unwaith ond ddwywaith.

Efallai eu bod nhw eisoes yn paratoi am senedd grog, gan ddod i’r casgliad bod maeddu Democrat Rhyddfrydol, a allai ochri gyda’r Ceidwadwyr, yn fwy o flaenoriaeth na churo ymgeisydd plaid a fyddai yn fwy tueddol o ochri â nhw.

Hela sgwarnog

Nid oes yna ryw lawer i awgrymu bod Llafur eu hunain yn hyderus o gipio’r sedd chwaith.

Yn nyddiau olaf yr ymgyrch maent fel petai wedi cydio ar y syniad mai pleidlais ASau Plaid Cymru o blaid caniatáu hela llwynogod – ddegawd yn ôl – fydd yn ennill yr etholaeth iddynt.

Ddydd Sadwrn fe fuodd ambell gefnogwr yn gwisgo fel anifeiliaid fferm a’n dilyn bws etholiadol Plaid Cymru o amgylch yr etholaeth.

Rhaid derbyn mai erfyn etholiadol ar ran Plaid Cymru yw Blogmenai yn bennaf, ond yn yr achos hwn rwy’n credu ei fod yn eithaf agos ti.

Yn y cyfamser mae ymgyrch Plaid Cymru wedi bod ychydig yn fflat, o’i gymharu â Ceredigion, ond bu rywfaint o fwrlwm yn weladwy.

Bu ymweliad Leanne Wood â Prifysgol Bangor ddyddiau ar ôl yr ail ddadl deledu yn uchafbwynt amlwg. Ni welwyd y fath gynnwrf torfol ers diwygiad 1904-5.

Nid wyf o’r farn bod Leanne Wood yn berfformwraig arbennig o wefreiddiol ond yn sgil y sylw y mae hi wedi ei dderbyn mae ryw fath o hud yn perthyn iddi erbyn hyn.

Yn y pen draw, ni fyddai yn syndod anferth pe bai y Blaid Lafur yn cipio Arfon, o ystyried mai sedd ymylon yw hon a’u bod wedi ad-ennill cefnogaeth ers 2010.

Serch hynny rwy’n credu bod Plaid wedi cynnal ymgyrch fwy effeithiol yn yr etholaeth, ac felly wedi symud y tebygolrwydd o gadw’r sedd o 50/50 i 70/30.