Huw Prys Jones yn trafod rhagolygon y Blaid yn yr etholiad

Un o gamgymeriadau mwyaf Plaid Cymru yn etholiad cyffredinol 2010 oedd gwastraffu llawer gormod o’u hymgyrch yn cwyno nad oedden nhw’n cael cymryd rhan yn y dadleuon teledu.

Dydi hynny ddim yn wir, wrth gwrs, y tro hwn, ac o’r herwydd mae Plaid Cymru wedi cael cychwyn llawer mwy cadarnhaol i’w hymgyrch.

Dydi’r ffaith mai Nicola Sturgeon a wnaeth ddwyn yr holl sylw ddim yn unrhyw fath o adlewyrchiad ar Leanne Wood; roedd y gwahaniaeth yng nghryfder y ddwy blaid am wneud hynny’n anochel.

Mwy anodd fodd bynnag ydi darogan pa effaith yn union y bydd y dadleuon hyn yn eu cael ar ganlyniad yr etholiad.

Mae’n annhebygol y bydd perfformiad meistrolgar Nicola Sturgeon ynddo’i hun yn arwain yn uniongyrchol at ragor o bleidleisiau i Blaid Cymru.

Ac er bod Leanne Wood wedi cael clod haeddiannol am ei chyfraniad, rhaid fydd i unrhyw gynnydd mewn pleidleisiau a ddaw yn sgil hynny ddigwydd yn y llefydd iawn er mwyn gwneud gwahaniaeth.

Yn fwy nag erioed o’r blaen, bydd llwyddiant Plaid Cymru’n dibynnu’n gyfan gwbl ar y nifer o seddau y bydd yn eu hennill. Yn y pen draw, ni fydd o ddiddordeb i fawr neb ond i anoracs gwleidyddol os bydd ei phleidleisiau’n codi rhai cannoedd yn ei hetholaethau mwyaf anobeithiol – Aelodau Seneddol fydd yr un beth fydd yn cyfrif.

Yr her fydd sicrhau bod unrhyw gynnydd posibl yn digwydd yn y tair sedd y mae’n ei dal ar hyn o bryd ac yn y tair sedd darged.

Gwendidau

Faint bynnag o lwyddiant y bu’r dadleuon teledu, ni ddylai hynny ddallu cefnogwyr Plaid Cymru at rai gwendidau y bydd yn rhaid eu goresgyn.

Yn gyntaf, un o wendidau mawr yr ymgyrch hyd yma yw gor-hoffter ei gwleidyddion o ailadrodd y gair ‘austerity’ hyd at syrffed. Gair jargon y bychanfyd gwleidyddol yw hwn, nad yw’n golygu fawr ddim i drwch yr etholwyr. (Ac mae’r gair Cymraeg ‘llymder’ yn fwy diystyr fyth.)

Dydi addewidion i ‘gael gwared ar lymder’ yn golygu dim oll; mae angen i’r Blaid (a phleidiau radical eraill) fod yn esbonio’n ddeallus pam fod angen codi mwy o drethi yn lle torri’n barhaus ar wasanaethau cyhoeddus.

Un o brif gryfderau Nigel Farage (er nad yw wedi cael llawer o hwyl arni yn y dadleuon teledu) yw ei fod yn siarad mewn iaith ddealladwy y mae pobl yn gallu unieithu eu hunain â hi.

Yn ail, gwendid arall Plaid Cymru ar hyn o bryd yw diffyg neges ddigon clir ynghylch pa bwerau yn union y bydd yn eu mynnu i Gymru, a pham fod angen y pwerau hyn.

Mae dweud y dylai Cymru gael cydraddoldeb â’r Alban yn  iawn yn ei le. Ar y llaw arall nid digon ydi dadlau y dylai Cymru gael union yr un pwerau â’r Alban yn y dyfodol cyn bod neb yn gwybod beth fydd y pwerau hynny. Mae hyn yn gyfystyr â dirprwyo’r penderfyniadau ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru i’r SNP.

Ac yn drydydd, y peth mawr arall sydd ar goll yn ymgyrch Plaid Cymru ydi diffyg ymosod digon caled ar y Blaid Lafur.

Mae gan yr SNP resymau da dros ddal yn ôl yn ei hymosodiadau a thrwy fod yn gynnil yn ei hymdriniaeth; mae ganddi hefyd y fantais o wybod y bydd pob gair caredig ganddi’n helpu i danseilio Llafur yng ngolwg pleidleiswyr mwy ceidwadol eu hagwedd yn Lloegr. A pho leiaf o bleidleisiau a gaiff Llafur yn Lloegr, mwyaf dibynnol fyddan nhw ar yr SNP.

Does gan Blaid Cymru ddim rhesymau tebyg dros ddal yn ôl – ac mae’n sicr fod llawer o bleidleisiau gwrth-Lafur a allai fod ar gael iddi yn ei hetholaethau targed petai’n mynd o’i chwmpas hi’r ffordd iawn.

Ac onid oes cymaint o bethau ynglŷn â’r Blaid Lafur fel y mae ar hyn o bryd sy’n gwahodd ymosodiadau cwbl ddidrugaredd gan ei gwrthwynebwyr?

Dyma blaid sy’n sylfaenu ei holl apêl ar godi bwganod yn erbyn y Toriaid heb fod â fawr ddim i’w gynnig ei hun. Mae’n cefnogi Trident – arf cwbl ddiwerth yn erbyn Islamic State fel y dywedodd Leanne Wood yn y ddadl – a dydi hi ddim yn dangos unrhyw ddyhead i wneud unrhyw newidiadau gwirioneddol i’r drefn.

A lle bo ystrydebu gwag yn y cwestiwn, mae Llafur mewn cynghrair ar ei phen ei hun. Sarhau deallusrwydd yr etholwyr yn barhaus gyda’u tôn gron nawddoglyd am ‘hard-working families’ a’r argraff y bydd eu ‘mansion tax’ yn datrys holl broblemau ariannol y sector cyhoeddus.

Onid ydi agweddau fel hyn yn crefu am rywun i fynegi eu dirmyg llwyr tuag atynt? Ac oni fyddai’n chwa o awyr iach clywed rhai o wleidyddion blaenllaw Plaid Cymru’n dweud mai cystal fyddai gweld Tori go-iawn yn Rhif 10 na phrif weinidog Llafur gwan a fyddai ar drugaredd y banciau a phapurau newydd Ceidwadol?

A beth sydd gan Blaid Cymru i’w golli o osod pris uchel am unrhyw gefnogaeth ganddi i lywodraeth Lafur? A’i gwneud hi’n hollol glir y bydd yn pleidleisio yn erbyn Araith y Frenhines oni bai y bydd, dyweder, yn addo trosglwyddo pwerau trethu i Gymru heb refferendwm? A phrun bynnag, a oes unrhyw un o gefnogwyr Plaid Cymru sy’n credu y byddai Owen Smith yn gwneud gwell Ysgrifennydd Cymru na Stephen Crabb?

Colli cyfle?

Un o’r delweddau cofiadwy y mae llawer wedi tynnu sylw ato ar ôl y ddadl nos Iau yw’r llun o’r tair arweinydd benywaidd yn cofleidio’i gilydd ar y diwedd. Roedd hynny’n cael ei weld fel arwydd o weledigaeth wleidyddol wahanol ac amgen sy’n cael ei chynnig.

Mae hyn  yn ardderchog tan y mae rhywun yn cofio y bydd dwy o’r pleidiau hyn yn ymladd yn erbyn ei gilydd yng Nghymru. Ac y gallai hyn amddifadu Plaid Cymru o un neu fwy o’i seddau targed.

All rhywun ond teimlo fod cyfle unigryw wedi cael ei golli yn yr etholiad hwn.

Petai’r pleidiau wedi gallu dod i gytundeb ffurfiol â’i gilydd, mae’n sicr y bydden nhw wedi gwneud mwy i ledaenu’r daeargryn sy’n digwydd yng ngwleidyddiaeth yr Alban i Gymru a Lloegr yn ogystal.