Dick Cole
Un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Llambed fydd yn gyfrifol am arwain ymgyrch etholiadol Mebyon Kernow, plaid genedlaetholgar Cernyw, hyd at Fai 7.

Cyn-fyfyriwr Archaeoleg a Hanes y brifysgol yw Dick Cole, sy’n ymgeisydd yn St Austell a Newquay.

Roedd yn ysgrifennydd cangen Plaid Cymru’r brifysgol tra roedd e yn Llambed rhwng 1988 a 1994.

Er na fydd Mebyon Kernow yn rhan o’r dadleuon teledu yn ystod yr ymgyrch etholiadol, gobaith Dick Cole yw darbwyllo’r BBC i gael cynnal Darllediad Etholiadol.

Fe fu’n siarad â Golwg360 yr wythnos hon.

Beth yw’ch ymateb chi i’r ffaith fod gan Blaid Cymru a’r SNP le yn y dadleuon teledu?

Rwy’n ei groesawu’n fawr. Ces i fy addysgu ym Mhrifysgol Cymru Llambed ac rwy wedi bod yn aelod o Blaid Cymru ers dros 25 o flynyddoedd, felly rwy wrth fy modd fod Leanne Wood am gael y cyfle i sicrhau bod Plaid Cymru’n chwarae rhan yn y prif ddadleuon teledu oherwydd rwy’n gwybod yn y gorffennol fod Plaid Cymru, yr SNP a Mebyon Kernow wedi cael eu cau allan i raddau helaeth o’r prif ddadleuon, sy’n cael eu dominyddu gan y pleidiau Llundeinig. Ond rwy’n credu ei fod yn newyddion gwych i Blaid Cymru a’r SNP ac rwy’n falch iawn.

Sut all y pleidiau hyn ddylanwadu ar y dadleuon teledu?

Yn bennaf oll, rwy’n credu ei fod yn gyfle gwych iddyn nhw gael mynediad di-ben-draw i’r cyfryngau fel y gallan nhw gyflwyno’u hachos yn fyw ar y teledu ar eu telerau nhw eu hunain. Rwy’n credu ei bod yn wych. Mae’n braf i wleidyddion pan ydych chi’n fyw ar yr awyr, ym mha bynnag un o’r cyfryngau, fod gyda chi un i bum munud lle mae beth bynnag rydych chi’n ei ddweud yn mynd allan ar unwaith ac mae’n gyfle i chi gyflwyno’ch achos. Rwy’n siŵr y bydd Nicola [Sturgeon] a Leanne yn gwneud jobyn da ohoni.

Faint o sylw hoffai Mebyon Kernow ei gael yn y cyfryngau cyn Mai 7?

Yn amlwg fel plaid yng Nghernyw, ry’n ni’n cael digon o sylw yn y cyfryngau print ac mae gen i golofn yn y papur newydd lleol ers pedair blynedd. Ond y gwir amdani yw ein bod ni’n cael ein cau allan i raddau helaeth gan y cyfryngau mwyaf, yn enwedig yn ystod etholiadau. O ran y teledu, mae’n anodd iawn i ni gael sylw teilwng. Dydyn ni ddim yn dadlau tros ymddangos yn y dadleuon teledu nac unrhyw beth tebyg, ond rydyn ni yn dadlau dros gael yr hawl i gael Darllediad Gwleidyddol cyn yr etholiad. Y gwir amdani ar hyn o bryd yw bod rhaid i chi sefyll mewn un o bob chwech o seddi yn un o wledydd Prydain i gael Darllediad Gwleidyddol.

Er enghraifft, yng Nghymru, fe fyddai’n rhaid sefyll mewn saith sedd er mwyn cael yr hawl i gynnal Darllediad. I ni yng Nghernyw, gan ein bod yn cael ein hystyried yn rhan o Loegr, byddai’n rhaid i ni sefyll ym mhob un o’r chwe sedd yng Nghernyw, ac 83 ychwanegol hefyd. Mae’n hollol annheg ac yn anghyfiawn ac yn hollol chwerthinllyd. Dwi heb lwyddo i ddarbwyllo’r BBC chwaith. Ro’n i’n siarad â nhw’n ddiweddar ond mae’r trafodaethau’n ddi-ffrwyth. Rwy’n besimistaidd iawn am y peth. Dydy’r darlledwyr na’r Comisiwn Etholiadol yn syml iawn ddim yn gwrando. Gan nad ydyn nhw’n ystyried Cernyw’n wlad lawn fel Cymru a’r Alban, rydyn ni’n cael ein cau allan o’r sylw o ran y Darllediadau, sy’n hollol anghyfiawn yn ein barn ni.

Fe gafodd eich sylwadau am y diffyg sylw i Mebyon Kernow gan gyfryngau Prydain eu cam-ddehongli, on’d do fe?

Do. Melltith y cyfryngau cymdeithasol, i fod yn onest, yw eich bod yn ysgrifennu darn cyn i rywun dreulio eiliadau’n unig yn rhuthro drwyddo fe heb ei ddarllen a thrydar yn wyllt. Roedd yn ddiddorol iawn fy mod i, adeg cyhoeddi’r dadleuon 7-ffordd, wedi dweud ‘Gwych, mae pethau’n symud, gadewch i ni wthio am sylw teilwng i MK’. Nid gofyn am gael bod yn rhan o’r dadleuon teledu o’n i. Nid dyna oedd e, yn amlwg iawn. Roedd yr holl negeseuon Twitter yn hedfan o gwmpas, gyda nifer o newyddiadurwyr yn dweud ‘Mae hyn yn warthus, Mebyon Kernow yn mynnu bod yn rhan o’r dadleuon teledu’. Wnaethon ni ddim o gwbl.  Fel gallwch chi ddychmygu, melltith y cyfryngau cymdeithasol yw’r cyfan, ar ben diffyg sylw pobol wrth adrodd am y pethau hyn y dyddiau yma.

Wrth sefyll yn St Austell a Newquay, rydych chi wedi lansio apêl Crowdfunder i ariannu’ch ymgyrch chi’n bersonol fel ymgeisydd. Dywedwch ragor am hynny.

Fe wnes i sefydlu apêl ar gyfer fy ymgyrch etholiadol fy hunan er mwyn cael fy ariannu. Yn yr etholaeth lle dwi’n ymgeisydd, mae’r Dems Rhydd a’r Torïaid yn gwario degau o filoedd o bunnoedd felly rydych chi wir yn wynebu cystadleuaeth. Felly penderfynon ni roi cynnig ar Crowdfunder fel mae’r Gwyrddion wedi bod yn gwneud mewn nifer o lefydd. Mae’r arian yn dod i mewn yn raddol. Mae gyda ni dipyn o ffordd i fynd ac mae pobol yn parhau i anfon siec aton ni, felly rydyn ni’n adeiladu’r adnoddau i fyny’n raddol er mwyn cael ymgyrch gref. Ein nod yn y lle cyntaf oedd £1,000 ac fe gyrhaeddon ni hynny’n gyflym iawn ac mae ychydig gannoedd o bunnoedd eto i ddod. Fe osodon ni darged uchelgeisiol ond gobeithio y byddwn ni’n codi dros £2,000 – rwy’n ffyddiog o hynny.

Roeddech chi’n feirniadol o’r ‘Case for Cornwall’ yn ddiweddar, gan ddweud ei fod yn wan. Beth hoffech chi weld y ddogfen yn ei gyflawni?

Cafodd y ‘Case for Cornwall’ ei lunio gan y Cyngor i lobïo’r llywodraeth ganolog am ragor o bwerau. Rwy wedi’i feirniadu am fod yn rhy wan. Dyw e ddim yn edrych ar ddatganoli fel sydd gan Gymru, na chwaith ar bwerau strategol. Dim ond addasu darnau fan hyn a fan draw ar lywodraeth leol mae’n ei wneud. Byddech chi’n synnu yng Nghymru ynghylch rhai o’r dadleuon rydyn ni’n eu cael yma yng Nghernyw. Mae’r ‘Case for Cornwall’ yn edrych yn ôl nid ymlaen ac nid yw’n ddigon pellgyrhaeddol o ran yr hyn mae’n ceisio’i gyflawni. Rwy wedi siarad yn blwmp ac yn blaen. Rwy’n siomedig iawn na all cynifer o ’nghydweithwyr godi eu llygaid i fyny oddi ar eu bywydau beunyddiol ym myd llywodraeth leol a cheisio sicrhau rhywbeth mwy ystyrlon fel sydd gan Gymru a’r Alban.

A beth am gryfhau’r Gernyweg?

Fel plaid, rydyn ni’n ceisio hyrwyddo’r iaith mor eang â phosib. Mae’r iaith yn gwneud cynnydd da ar hyn o bryd, gan adeiladu ar y gwaith gafodd ei wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fe fu tipyn o fuddsoddiad yn yr iaith o du’r llywodraeth. O ran y sylw iddi’n ddiweddar a chydnabod y bobol yn genedl leiafrifol fis Ebrill y llynedd, mae’n dangos ein bod ni wedi cymryd camau breision ymlaen. Gobeithio y bydd y datblygiadau diwylliannol a’r buddsoddiad yn yr iaith yn cyfateb i gynnydd gwleidyddol hefyd.

Mae rhagor o wybodaeth am apêl Crowdfunder Dick Cole yma.