Dafydd Elfryn
Dafydd Elfyn sydd wedi bod yn dadansoddi’r data a chanfod ambell beth difyr …

Dw i wedi sôn sawl gwaith ar y blog yma am ddwysedd poblogaeth y wlad neu sir. Mae canfod dwysed poblogaeth yn ffordd ddefnyddiol o gymharu ardaloedd, ac mae’n cael ei ddefnyddio mewn nifer o ddadansoddiadau.

Er bod y rhesymeg y tu ôl i ddwysedd poblogaeth yn eithaf syml – rhannu’r boblogaeth gyda’r arwynebedd – nes i feddwl sgwennu blog ar sut dw i’n mynd ati i gyfrifo’r dwysedd, a darganfod ychydig o ffeithiau diddorol ar y ffordd.

Beth ydi gwir faint Cymru?

Cyn darganfod beth yw dwysedd poblogaeth Cymru, mae rhaid darganfod beth yw ei wir faint.

Mae’n swnio’n gwestiwn rhyfedd, ond mae sawl ffordd o fesur maint arwynebedd gwlad – yn enwedig gan fod gan Gymru arfordir anferth.

Mae’r Ordnance Survey er enghraifft yn cyhoeddi nifer o’i data mewn dwy ffordd – “Extent of the realm” – sydd yn cynrychioli maint Cymru wedi ei fesur yn ôl llinell llanw allan, a “Clipped to coastline“, sydd yn cynrychioli maint Cymru pan mae’r llanw i mewn.

Be ydi maint y gwahaniaeth yma? Wel, yng Nghymru, mae’r tir ychwanegol sydd yn cael eu datgelu pan mae’r llanw allan yn 444km2 – ardal sy’n gyfatebol i ynys Barbados! (Cantref Gwaelod modern efallai?!).

Ar gyfer y dadansoddiadau yn y blog yma, nes i ddefnyddio maint Cymru pan fo’r llanw allan (y mesur mwyaf). Mae hyn yn golygu bod arwynebedd Cymru yn 21,224km2 (o ran maint felly, yn ôl y rhestr yma, Cymru yw’r 152 wlad fwyaf yn y byd).

Dwysedd poblogaeth Cymru

Yn ogystal ag arwynebedd, ‘da ni’n amlwg angen gwybod y boblogaeth. Yn ôl gwefan StatsCymru, cyfanswm Poblogaeth Cymru yn 2013 oedd 3,082,412. Mae’r graff isod yn dangos y trawstoriad fesul sir:


Fel sy’n amlwg, mae Caerdydd ymhell ar y blaen. Mae’r siart isod yn dangos arwynebedd pob sir (wedi cadw’r un drefn â’r siart uchod).


Mae’r siart yn dangos bod dim perthynas rhwng poblogaeth a maint sir (a hefyd fod Powys yn anferth!).

Nawr bod y mesuriadau i gyd yma, mi fedrwn ni gyfrifo dwysedd poblogaeth drwy rannu’r nifer o bobl gyda maint yr ardal. Mae hynna’n golygu fod dwysedd Poblogaeth Cymru yn … 144 person i bob km2.

Ffordd arall i edrych ar y ffigwr yw taswn ni’n rhannu holl dir Cymru yn hafal rhwng y boblogaeth, mi fysa pawb yn cael tamaid o dir 6885m2 (rhyw 1.7 acer – hen ddigon i adeiladu tŷ bach!).

Wrth gwrs, mae hyn yn cynnwys afonydd, llynnoedd a mynyddoedd, felly fydd rhai pobl anffodus yn cael darnau llai moethus nac eraill.

O ran diddordeb, nes i edrych ar brisiau tir yng Nghymru ac ar gyfartaledd, mae acer o dir yma yn costio o gwmpas £68,000 – sy’n golygu fod gwerth yr holl dir yng Nghymru (sydd tua 5,244,696 acer) yn £356,639,362,833(!) ac y byddai ein llecyn 1.7 acer ni werth rhyw £115,600.

Cymharu dwysedd ar lefel sir

Fel ‘da ni wedi gweld yn y siartiau uchod, mae poblogaeth Cymru wedi ei rannu’n annheg rhwng y siroedd – ac mae hyn yn cael effaith mawr ar ddwysedd poblogaeth pob sir. Mae’r siart isod yn dangos y ffigyrau:


Mae ffigwr Caerdydd yn wallgo’ o uchel i gymharu gyda gweddill y wlad – bron dair gwaith mwy na’r sir nesaf, Torfaen.

I gael darlun gwell o ba mor ddwys yw’r boblogaeth yng Nghaerdydd, mae’r graff isod yn dangos faint o dir fysa’r boblogaeth yn ei gael os fysa’r siroedd yn cael eu rhannu allan yn hafal i’r trigolion:


Prin ymddangos ar y siart mae Caerdydd, gyd dim ond 425m2 ar gael i bob un o’i thrigolion, tra bod gan drigolion Powys ar y llaw arall 39150m2 yr un.

Defnydd tir

I gymharu’r ffigyrau yma mewn ffordd ychydig mwy gweledol, os fysa pawb yng Nghymru yn cael eu gwasgu at ei gilydd i ddwysedd poblogaeth Caerdydd, er enghraifft, dyma faint o’r wlad ‘sa ni angen:


O dan yr amgylchiadau yma, mi fysa’r boblogaeth yn gallu byw o fewn darn o dir 1310km2 – ardal ychydig mwy na Sir Conwy.

Cymharu gyda’r DU ac Iwerddon

Beth arall allwn ni wneud ydi cymharu dwysedd poblogaeth Cymru gyda’n cymdogion agosaf. Mae’r graff isod yn dangos y ffigyrau:


Gyda Lloegr ymhell ar y blaen – a thwf mewnfudwyr i’r wlad yn dal i fod yn uchel – mae’n debyg mai cynyddu gwneith y gwahaniaeth rhwng Lloegr a gweddill y gwledydd.

Gallwch rhagor o graffiau a darllen mwy o flogiau ystadegol gan Dafydd ar ei flog personol, www.dafyddelfryn.co.uk.