Mae’n amhosib gwybod os oedd y penderfyniad i ryddhau al-Megrahi yn un cywir, heb ymchwiliad newydd i fomio Lockerbie, meddai Ifan Dylan …

Mae penderfyniad Llywodraeth yr Alban i ryddhau Abdelbaset Ali Mohmed al-Megrahi wedi achosi cryn ddadlau ar ddwy ochor yr Iwerydd.

Yn 2001 cafwyd y dyn o Libya yn euog o farwolaeth 270 o bobol, ar ôl ffrwydro’r awyren PanAm 103 dros dref Lockerbie yn yr Alban yn 1988.

Mae rhai’n lambastio “naïfrwydd” a “gwendid” Llywodraeth yr Alban, a rhai’n cytuno â’r penderfyniad, ar sail tosturi yn wyneb salwch angheuol al-Megrahi.

Wnaeth croeso buddugoliaethus yn Libya ddim i leihau’r chwerwedd.

Ond nid mater o gosb a thosturi yn unig yw hwn – mae yna amheuon mawr os yw’r dyn yn euog ai peidio, gyda rhai’n dweud bod y dystiolaeth yn ei erbyn yn ddiffygiol.

Mae nifer o bobol sy’n gysylltiedig â’r achos, gan gynnwys teuluoedd rhai o’r bobol a gafodd eu lladd, yn credu fod al-Megrahi yn ddieuog.

Mae al-Megrahi ei hunan wedi dweud erioed ei fod yn ddieuog, a’r unig reswm tros ollwng ei apêl oedd er mwyn creu’r cyfle iddo gael ei ryddhau a symud i Libya.

Ynghlwm a’r sïon yma, mae honiadau fod pwysau wedi ei roi ar al-Megrahi i atal yr apêl, gan y gallai achos llys arall agor crachen y gorffennol.

Mae rhai’n honni fod gan Brydain fwy o ddiddordeb yng nghyfoeth olew Libya, nac yng nghyfiawnder trychineb Lockerbie. Dim ond bwch dihangol oedd al-Megrahi, meddai nhw.

Dim ond ryw dri mis sydd gan al-Megrahi i fyw, yn ôl doctoriaid. Ond hyd yn oed pan mae o yn ei fedd bydd yr ansicrwydd yn parhau i deuluoedd y rhai fu farw ar PanAm 103.

Wrth i honiadau tebyg rygnu ymlaen, a chan na fydd yna apêl a fydd yn edrych eto ar achos y trychineb, anniddigwch a drwgdybiaeth yn unig fydd yn weddill.

Yr unig fodd o osgoi hynny fyddai ymchwiliad cyhoeddus i brofi gwir amgylchiadau’r trychineb.

Dim ond wedyn y gallwn ni ystyried mewn difri os oedd y penderfyniad i ryddhau al-Megrahi yn un cywir ai peidio.