Map yn dangos Tonypandy a'r M4 (Nilfanion CCA3.0)
Fe gafodd dyn ei ladd a gwraig ei hanafu’n ddifrifol mewn damwain ffordd yn y Rhondda.
Mae Heddlu De Cymru’n apelio am dystion a welodd yr hyn ddigwyddodd ar ffordd yr A4119 ger Tonypandy ychydig ar ôl chwech o’r gloch neithiwr.
Fe gafodd y dyn 40 oed, a oedd yn gyrru car MG, ei ladd yn y fan a’r lle ac mae’r wraig 56 oed yn ddifrifol wael yn yr ysbyty. Roedd hi’n gyrru Vauxhall Corsa arian.
Fe ddigwyddodd y ddamwain rhwng cylchfannau Williamstown a Chwm Clydach.