Mae’r heddlu yn galw ar yrrwr cerbyd fethodd a stopio yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Bagillt, Sir y Fflint, i gysylltu â nhw.

Digwyddodd y gwrthdrawiad yn oriau man y bore ddoe.

Daethpwyd o hyd i gorff dynes lleol 31 oed ar ffordd ddeuol yr  am 4.37am.

Wnaeth gyrrwr y cerbyd ddim stopio a rhoi gwybod i’r gwasanaethau bryd bod y gwrthdrawiad wedi digwydd.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu 08456071001.