Teyrngedau i Margaret Edwards fu farw yn Pentrefoelas

Diweddarwyd  
Margaret Edwards o Betws Gwerfyl Goch, fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhentrefoelas ar Ragfyr 28, 2019

Margaret Edwards o Betws Gwerfyl Goch, fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhentrefoelas ar Ragfyr 28, 2019

Llun: Trwy law Heddlu Gogledd Cymru

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i Margaret Edwards, 74, cyn-arweinydd Côr Betws Gwerfyl Goch, a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A5 ym Mhentrefoelas, Sir Conwy nos Sadwrn (Rhagfyr 28).

Roedd hi’n arweinydd côr ac un o hoelion wyth y byd cerdd dant, ac wedi cyfieithu ‘Un Dydd ar y Tro’ gan Trebor Edwards.

Cafodd ei chôr ei sefydlu yn 1987 fel Côr Aelwyd, gan ddod yn adnabyddus mewn eisteddfodau a gwyliau cerdd dant.

Aeth y côr o fod yn Gôr Aelwyd i fod yn Gôr Bro Gwerfyl pan aeth yr aelodau’n hŷn. Roedd hi hefyd yn adnabyddus am ei deuawdau gyda Trebor Edwards.

“Cyfraniad amhrisiadwy”

Mae’n fam i Elin Angharad, Tudur a’r actores Leisa Mererid.

Mewn datganiad dywedodd ei theulu:  “Yn fam annwyl i Elin, Leisa a Tudur a nain gariadus a balch i naw o wyrion ac wyresau, bu cyfraniad Margaret Edwards i’w chymdeithas, i fyd addysg a cherddoriaeth yn amhrisiadwy.

“Fe’i cofir yn bennaf fel cantores, cyfansoddwraig, arweinyddes Côr Bro Gwerfyl a chyfieithydd y gân adnabyddus ‘Un Dydd ar y Tro.’ Bydd hiraeth a bwlch mawr ar ei hôl.”

“Cantores o fri”

Wrth roi teyrnged i Margaret Edwards, dywedodd Arfon Williams, llywydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru a ffrind i’r teulu, ei bod yn “gantores o fri” a bod ganddi’r “gallu i drosglwyddo’r ddawn honno i hyfforddi pobol eraill.”

Bu’n brifathrawes am nifer o flynyddoedd yn Ysgol Dinmael, Corwen ac roedd wedi parhau i hyfforddi plant yn ysgolion yr ardal ar ôl iddi ymddeol, meddai.

“Roedd cerddoriaeth yn ei gwaed hi. Roedd hi’n berson reit ddisgybledig, ond yn berson llawen iawn ac yn gweld y da ym mhawb. Roedd hi mor gefnogol i bopeth yn yr ardal, yn cefnogi bob dim,” meddai Arfon Williams.

“Sioc ofnadwy”

 Ychwanegodd bod ei marwolaeth wedi bod yn “sioc ofnadwy” i’r teulu.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am gar Toyota Rav 4 oedd yn teithio ar hyd yr A5 am oddeutu 9.20 y nos. Dim ond un cerbyd oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101.

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones