Mae heddlu yn Las Vegas wedi arestio’r rapiwr, Fetty Wap, yn dilyn ymosodiad ar dri gweithiwr gwesty yn y ddinas.

Mae’r cerddor 28 oed (enw iawn, Willie Maxwell) yn y ddalfa ers bore Sul (Medi 1) ar dri chyhuddiad o ddyrnu unigolion.

Mae adroddiadau newyddion lleol yn dweud iddo daro swyddog maes parcio ar ôl mynd i ffrae. Yn wreiddiol, roedd yr heddlu yn dweud ei fod wedi taro un gweithiwr gwesty, cyn newid a dweud ei fod wedi “dyrnu tri o bobol”.

Roedd Fetty Wap yn un o berfforwyr seremoni yr MTV Video Music Awards yr wythnos ddiwethaf.