Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst wedi cyhoeddi eu bod yn newid ychydig ar y cynllun traffig o heddiw (dydd Iau, Awst 8) ymlaen.

Mae’n effeithio ar ymwelwyr sy’n dod i ardal Llanrwst o’r gogledd ddwyrain.

Bydd ceir sy’n cyrraedd Llanrwst ar hyd yr A548 (Ffordd Abergele) yn cael eu cyfeirio i un o feysydd parcio eraill yr Eisteddfod.

Mae’r trefnwyr yn gofyn i yrrwyr gymryd sylw gofalus o’r arwyddion ffordd, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cyfeirio i’r maes parcio perthnasol.