Mae Heddlu Gogledd Cymru yn arddangos eu drôn DJ-Spire ar faes yr Eisteddfod heddiw (dydd Mercher, Awst 7) sydd yn gymorth enfawr iddyn nhw wrth ddatrys achosion.

Mae hyn yn enwedig wrth geisio darganfod person sydd wedi mynd ar goll, meddai Swyddog Cymunedol Heddlu Dyffryn Ogwen, Iwan Owen, ac un o beilotiaid droniau llu Gogledd Cymru, wrth golwg360.

“Mae hon yn un o pum drôn sydd mewn gweithrediad ar y funud gan Heddlu Gogledd Cymru,” meddai Iwan Owen.

“Prif waith y drôn ydy chwilota am bobol sydd ar goll. Mae yna fodd rhoi camera gwres ar hon sydd yn helpu i ni chwilota mewn lleoliadau anghysbell.”

“Pethau eraill rydan ni’n eu defnyddio ar gyfer ydy er mwyn cael lluniau o ddamweiniau difrifol ac er mwyn paratoi ar gyfer digwyddiadau mawr fel yr Eisteddfod.”

Canlyniadau

Mae’r droniau yn costio tua £2,500 i gyd, sydd yn fargen i gymharu â chost cael a chreu hofrenyddion, meddai Iwan Owen.

Yn ôl y swyddog mae’n rhagweld y bydd y rhain yn cael eu defnyddio mwy a mwy, “mae technoleg yn gwella trwy’r amser dydi, does dim dwywaith fydden nhw’n cael eu defnyddio mwy.”

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn defnyddio’r droniau am bron iawn i dair blynedd, ac yn gweld canlyniadau.

“Beth mae’n gadael i ni wneud ydy rhyddhau swyddogion i chwilota mewn llefydd eraill,” meddai Iwan Owen.

“Roedden ni’n chwilota am ferch fach tair oed mewn stad ym Mangor rhyw ddiwrnod ac roedd yna blismyn ar hyd y strydoedd i gyd.

“Felly wnaethon ni roi’r drôn i hedfan dros y stad a gadael y swyddogion fynd i’r afon a’r goedwig gyfagos. Felly gafodd y plismyn i gyd eu rhyddhau a chafodd y ferch fach ei darganfod mewn ugain munud.”