Bydd Fearless, gwasanaeth ieuenctid elusen ”Taclo’r Tacle’, yn lansio ffilm newydd yr wythnos hon er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r ffordd y mae gangiau cyffuriau ‘llinellau sirol’ yn manteisio ar bobol ifanc er mwyn symud a gwerthu cyffuriau.

Cynhyrchwyd y ffilm – Running the Lines – ar gyfer prosiect Fearless Cymru.  Mae’n dilyn cymeriad Evan, a gaiff ei baratoi, ei gamddefnyddio a’i fygwth i gludo cyffuriau ar gyfer gang o Lundain.

Ysbrydolwyd y stori gan achosion llinellau sirol go iawn, gan gynnwys y ffordd y mae gangiau o’r fath yn defnyddio trais.

Fel rhan o brosiect partneriaeth atal trais difrifol ym mhedair ardal heddlu Cymru, caiff Running the Lines ei sgrinio ym mhob un yn ystod mis Mehefin.