Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad dyn 64 o Aberbargod yn Sir Caerffili.
Dydy Howard Butts ddim wedi cael ei weld ers Awst 19, ac mae’r heddlu’n gofidio amdano.
Mae’n 5’7”, yn denau gyda gwallt byr du a chraith ar ei foch chwith.
Pan aeth e ar goll, roedd e’n gwisgo cardigan glas tywyll, jeans glas a trainers du.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.