Gorsaf Heddlu De Cymru yng Nghaerdydd
Mae dyn 27 oed wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei arestio a’i holi ar amheuaetho lofruddio.

Fe ddaeth Heddlu De Cymru o hyd i gorff dyn 53 oed mewn tŷ yn ardal y Rhath yng Nghaerdydd.

Roedden nhw wedi cael eu galw i’r adeilad yn Claude Place tua deg o’r gloch neithiwr ac maen nhw wedi cadarnhau bod y farwolaeth yn un amheus.