Mae’r heddlu wedi gwneud apêl newydd am dystion yn dilyn gwrthdrawiad rhwng menyw a char. 

Fe ddywedodd yr heddlu bod y fenyw 83 oed yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn dilyn y digwyddiad yn Y Barri. 

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Broad Street yn agos i’r gyffordd gyda Stryd Miskin a Heol Y Porthladd am 6.20pm nos Sadwrn. 

“Roedd car Volkswagen Passat llwyd yn cael ei yrru gan ddyn 53 oed a oedd yn teithio o Stryd Broad i Stryd y Parc pan fu mewn gwrthdrawiad gyda’r fenyw 83 oed,” meddai llefarydd ar ran Heddlu De Cymru. 

 “Roedd staff y gwasanaeth Ambiwlans wedi cyrraedd man y digwyddiad yn gyflym i ddarparu triniaeth i’r fenyw a gafodd ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru.  Mae ei chyflwr yn cael ei ddisgrifio fel ’difrifol’ ar hyn o bryd.”

 Mae’r heddlu wedi dweud eu bod nhw am siarad gydag unrhyw un oedd yn dyst i’r digwyddiad neu a stopiodd i gynnig cymorth ac sydd heb eisoes siarad gyda’r heddlu. 

 Fe ddylai unrhyw un gyda gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu De Cymru ar 02920 633 438 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.