Mae bachgen 13 oed wedi’i arestio wedi i fachgen arall yn ei arddegau gael ei drywanu yn ardal Manceinion neithiwr.

Yn ol llefarydd ar ran Heddlu Greater Manchester, mae’r bachgen 15 oed mewn cyflwr difrifol, yn ymladd am ei fywyd, yn dilyn y digwyddiad yn Moston toc wedi 7yh nos Fawrth.

Mae’r llu wedi apelio am wybodaeth gan y cyhoedd wrth geisio datrys yr achos.