Llun: PA
Mae Cymro sy’n wreiddiol o San Clêr yn Sir Gaerfyrddin wedi’i ddal ar hyn o bryd yn ninas Galway wrth i storm Ophelia daro Iwerddon.

Mae Aled Owen-Thomas wedi byw yn Iwerddon ers deng mlynedd, ac mae’n sôn sut mae yntau a’i deulu ifanc wedi’u dal “yn llygad y storm”.

“Dw i’n edrych mas trwy’r ffenest ac mae’n wyntog iawn. Dw i ddim yn ofni gormod, ond efallai nad ydyn ni wedi cael y gwaethaf eto,” meddai wrth golwg360.

Arfordir – ‘gwyllt’

Esboniodd Aled Owen-Thomas, sy’n ffotograffydd proffesiynol, fod yr holl ysgolion a’r busnesau yn y ddinas ynghau heddiw.

Mae ganddo ddau o blant, ac mae ei fab 5 oed, adref o’r ysgol heddiw o ganlyniad i’r storm.

“Mi wnaeth pawb benderfynu’r bore yma i beidio â mynd i’r gwaith. Dw i ddim yn nabod neb sydd wedi mynd i’r gwaith, a dw i ddim yn gallu gweld neb allan ar yr hewl,” meddai.

“Mae hyd yn oed yn fwy peryglus ger yr arfordir, mae’n eithaf gwyllt yno. Rydyn ni’n teimlo’n eithaf diogel yma yn y ddinas, ond dw i’n poeni am fy ffrindiau sydd allan yng nghefn gwlad.”

Cartrefi heb drydan

Dywedodd hefyd fod ganddo ffrindiau yn Cork, dros 100 milltir i’r de o Galway, a’u bod wedi colli’r cyflenwad trydan yno.

“Mae fy ffrind yn dweud bod pethau’n dechrau clirio yno erbyn nawr, ond mae gymaint o sbwriel dros y llawr mae’n amhosib symud o gwmpas y lle,” meddai.

Mae Aled Owen-Thomas hefyd wedi canmol y wybodaeth a’r rhybuddion maen nhw wedi’u cael cyn y storm gyda’r newyddion wedi’u cyrraedd ers dydd Gwener.

Mae rhybuddion coch yn parhau yn Iwerddon wrth i wyntoedd gyrraedd dros 90mya gyda miloedd o gartrefi wedi colli eu cyflenwad trydan.

Mae dau o bobl hefyd wedi’u lladd yn y gwyntoedd cryfion.

Bu farw dynes yn ne ddwyrain Waterford yn Iwerddon ar ol i goeden ddisgyn ar ei char wrth iddi yrru ym mhentref Aglish yn ne’r wlad y bore yma.

A bu farw dyn wrth iddo geisio symud coeden oedd wedi cwympo yn Cahir, Co Tipperary.