Miriam Briddon (Llun: Y Byd ar Bedwar)
Mae teulu merch 21 oed o Geredigion gafodd ei lladd yn 2014 wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd cosbau llymach yn cael eu cyflwyno i yrwyr sy’n niweidio neu’n lladd eraill.

Cafodd Miriam Briddon o Gross Inn ger Ceinewydd, ei lladd ar 29 Mawrth 2014, wrth yrru i gyfeiriad Felin-fach.

Fe blediodd Gareth Entwistle yn euog o achosi marwolaeth trwy yrru’n ddiofal dan ddylanwad alcohol ac mi gafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd a hanner o garchar – ond dywedodd y barnwr y gallai gael ei ryddhau ar ôl treulio hanner ei ddedfryd dan glo.

Dedfryd oes

 

Byth ers hynny mae teulu’r ferch wedi ymgyrchu am newid i’r gyfraith gan ddechrau ymgyrch ‘A Moment for Miriam’ a chyflwyno’r ddeiseb i Stryd Downing y llynedd.

 

Bellach mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cyflwyno dedfryd oes i rai sy’n achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, neu o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

Gallai pobl sy’n achosi marwolaeth drwy oryrru, rasio neu ddefnyddio ffôn symudol hefyd wynebu dedfrydau tebyg i ddynladdiad, gydag uchafswm y gosb yn cynyddu o 14 mlynedd i oes.

Yn ogystal, fe fydd trosedd newydd yn cael ei hystyried o achosi anafiadau difrifol drwy yrru’n anghyfrifol.

 

‘Rhybudd cryf’

Wrth groesawu’r cyhoeddiad mae’r teulu – Ceinwen, Richard, Katie-Ann, Megan a Lowri – wedi’i ddisgrifio’n “newyddion da.”

“Mae’r newyddion hyn wedi bod yn hir yn dod, ond rydyn ni’n falch iawn i’w gyhoeddi o’r diwedd,” meddai’r teulu yn eu datganiad.

Maen nhw’n ychwanegu na fydd hyn yn effeithio ar ddedfryd y dyn achosodd marwolaeth eu merch ond “gobeithio y bydd y canllawiau yn ymddwyn fel rhybudd cryf i eraill.”

“Os yw’n arbed un teulu rhag profi’r hyn rydyn ni’n ei brofi, yna byddwn ni wedi cyflawni rhywbeth cadarnhaol.”