(llun o wefan yr heddlu)
Mae dyn o gefn gwlad dyffryn Clwyd ymhlith wyth o ddynion yn y ddalfa sy’n wynebu cyhuddiadau difrifol yn ymwneud â chyffuriau.

Cafodd Steven Roberts, 39 oed o Cefn Uchaf, Cyffylliog, ger Rhuthun, ei arestio mewn cyrch mawr gan heddluoedd Gogledd Cymru, yr Alban a Sir Gaer ychydig dros bythefnos yn ôl.

Mae ef a’r dynion eraill wedi eu cyhuddo o bedair trosedd o gynllwynio i gyflenwi cocên, ecstasi, cannabis ac amffetamin.

Ymddangosodd Steven Roberts llys ynadon South Sefton yn Lerpwl heddiw lle cafodd ei gadw yn y ddalfa i ymddangos o flaen Llys y Goron Lerpwl ar 10 Tachwedd.

Roedd cyrch yr heddluoedd rhan o ymchwiliad gan uned Titan ers 18 mis i gynllwyn honedig i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a B.