Mae dyn wedi’i gludo i’r ysbyty ar ôl syrthio 20 troedfedd oddi ar sgaffaldiau dros-dro mewn capel yn y Rhymni.

Fe gafodd pedwar criw achub eu galw – o Ferthyr Tudful, Y Barri a Malpas – er mwyn ceisio helpu’r dyn a syrthiodd i’r llawr toc cyn 9.30yb heddiw.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, fe gafodd offer arbenigol ei ddefnyddio i dorri’r dyn yn rhydd ac i’w godi, er mwyn ei gario wedyn i’r ysbyty.