Bydd y Parêd Gŵyl Dewi cyntaf yn cael ei gynnal ar strydoedd Aberystwyth ar ddydd Gwener, 1 Mawrth.

Bwriad yr orymdaith yw cael digwyddiad arbennig er mwyn dathlu diwylliant Cymraeg mewn ffordd wahanol, a chreu digwyddiad na ellir ei chael yn unman arall, yn ol y trefnwyr.

Bydd perfformwyr amrywiol yn cymryd rhan, gan gynnwys Côr Meibion Aberystwyth, y pibydd Ceri Rhys Matthews, a’r grŵp gwerin, Radwm.

Yn arwain y Parêd gyntaf yma fydd Dr Meredydd Evans, braint sy’n cael ei roi i ddiolch am ei gyfraniad at gerddoriaeth, iaith a diwylliant Cymraeg ers 70 mlynedd.  Mae Merêd wedi bod yn rhan bwysig o gerddoriaeth werin Cymraeg, ac mae’n aelod nodedig o Gymdeithas yr Iaith.

Bydd Tywysydd newydd yn cael ei ddewis bob blwyddyn, er mwyn dathlu a diolch am gyfraniad bobol leol at ddiwylliant Cymru.

“Bydd y Parêd yn ddathliad o’n nawddsant, yr iaith Gymraeg a diwylliant unigryw Cymru. Bydd yn ffordd o ddangos i’r dre ein bod yn dathlu Dewi ac yma o hyd,” meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth.

“Digwyddiad arbennig ac unigryw i Gymru yw hwn – nid rhywbeth generic. Mae ganddom ni’n caneuon, mae ganddom ni’n hofferynnau a’n drymiau ac rydym am i bobl weld a mwynhau diwylliant unigryw nid diwylliant neu orymdaith gellir ei gweld mewn unrhyw dref arall ym Mhrydain,” meddai.

Yn dilyn yr orymdaith i lawr y Stryd Fawr ac ar Stryd y Popty, bydd seremoni yn Llys y Brenin.  Bydd y seremoni dan arweiniad y cyflwynydd a’r awdur Lyn Ebenezer, a fydd yn arwain y dorf mewn llw Gŵyl Ddewi cyn mwynhau rhagor o berfformiadau.

Bydd yr orymdaith yn dechrau wrth Gloc y Dref yn Aberystwyth, am 1pm ar 1 Mawrth.