Bydd ymgyrch rhieni, sy’n galw am reoleiddio’r diwydiant adeiladu yn dilyn marwolaeth eu merch, yn cael ei drafod yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw.

Bu farw Meg Burgess, oedd yn 3 mlwydd oed, wedi i wal oedd yn cael ei adeiladu ddisgyn ar ei phen wrth iddi gerdded gyda’i mam ar hyd Ffordd Penrhwylfa ym Mhrestatyn ym mis Gorffennaf 2008.

Mae ei rhieni, Lindsay a Pete Burgess, sydd bellach yn byw yng Nghaer, wedi cael cefnogaeth eu Haelod Seneddol lleol i  alw am fesurau llymach ar gyfer adeiladwyr.

Bydd yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Stephen Moseley, yn codi’r mater yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw drwy gyflwyno cynnig rheol deg munud.

‘Achos trasig’

Mewn datganiad, dywedodd Stephen Moseley y bydd ei gynnig yn ceisio mynd i’r afael â’r sefyllfa bresennol beryglus sy’n bodoli yn y DU lle gall unrhyw un adeiladu wal a rhoi tunelli o rwbel yn erbyn, heb fod angen iddo gael ei archwilio am ddiogelwch.

“Mae hwn yn achos trasig ac yn fodd i dynnu sylw at bwysigrwydd rheoleiddio priodol yn y diwydiant adeiladu,” meddai Stephen Moseley.

“Fel mae’r rheolau ar hyn o bryd, gallai unrhyw un yn y DU adeiladu wal uchel chwe throedfedd a thaflu tunelli o rwbel yn ei erbyn. Nid oes unrhyw ofyniad am arweiniad swyddogol, nid oes unrhyw ofyniad i ymgynghori â pheiriannydd strwythurol profiadol, a does dim angen i neb archwilio’r strwythur gorffenedig i weld os yw’n ddiogel.”

Yn dilyn achos llys hir yr hydref diwethaf, cafodd George Collier, yr adeiladwr oedd yn gyfrifol am farwolaeth Meg, yn euog o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol a chafodd ei ddedfrydu i garchar am ddwy flynedd.

Roedd Geroge Collier wedi adeiladu wal 72 troedfedd o uchder oedd heb gael ei angori’n iawn a heb unrhyw fesurau diogelwch i amddiffyn cerddwyr ar y palmant. Disgynnodd y wal mewn un darn.

Ychwanegodd Stephen Moseley: “Mae Mr a Mrs Burgess wedi cynnal eu hunain gydag urddas a chryfder anhygoel dros y pedair blynedd a hanner diwethaf, a nawr eu bod nhw wedi cael rhywfaint o gyfiawnder i Meg, maen nhw’n benderfynol na ddylai unrhyw un arall fynd trwy’r un profiad.”