Mae undeb y newyddiadurwyr wedi dweud na fydd materion sydd o bwys i bobol gogledd Cymru yn cael eu hadrodd os bydd perchnogion papur newydd yn parhau gyda chynllun i dorri swyddi.

Yn ôl Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) mae 11 o swyddi yn y fantol yn y Daily Post, gan gynnwys gohebwyr lleol ac is-olygyddion, ar ôl i’r perchnogion Trinity Mirror gyhoeddi eu bod nhw’n ad-drefnu swyddi.

Mae cytundeb gydag asiantaeth newyddion y Press Association i ddarparu erthyglau am ogledd Cymru ac Aelodau Seneddol y rhanbarth hefyd yn dod i ben.

“Heb ohebwyr a dylunwyr does ’na ddim cynnyrch,” meddai Elgan Hearn o gangen yr undeb yng ngogledd Cymru.

“Mae rhai o’n teitlau ni’n 150 o flynyddoedd oed. Maen nhw wedi goroesi dyfeisio’r radio a’r teledu ond mae’r rheolwyr yn credu nad yw hi’n bosib goroesi’r oes ddigidol a’i defnyddio hi er ein budd ni,” meddai.

Cefnogaeth drawsbleidiol

Mae’r undeb yn dweud eu bod nhw wedi derbyn negeseuon o gefnogaeth ar draws y pleidiau gwleidyddol yn y gogledd, gan gynnwys  Janet Finch-Saunders AC o’r Ceidwadwyr, Albert Owen AS o Lafur, a Llŷr Huws Gruffydd AC o Blaid Cymru.

Mewn neges dywedodd y Democrat Rhyddfrydol Aled Roberts AC: “Un o’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu ni wleidyddion o ogledd Cymru yw’r modd mae cyfryngau Lloegr yn ymestyn dros ein rhanbarth ni, sy’n cael effaith uniongyrchol ar ddealltwriaeth y cyhoedd o ba feysydd sydd wedi eu datganoli,” meddai.

“Mae’n amlwg fod goblygiadau mawr i’r cynigion yma i ad-drefnu.”