Daw’n amlwg heddiw faint o Aelodau Seneddol Ceidwadol sy’n gwrthwynebu caniatáu i gyplau o’r un rhyw briodi.

Ar ddiwrnod y bleidlais ar y Bil Priodasau mae disgwyl i fwyafrif o’r Aelodau Seneddol Ceidwadol, gan gynnwys bob un o wyth AS Ceidwadol Cymru, bleidleisio yn erbyn Bil eu llywodraeth nhw heno.

Er gwaethaf anniddigrwydd mawr am briodasau hoyw ymhlith cefnogwyr y Ceidwadwyr ar lawr gwlad bydd David Cameron yn ymuno gydag Aelodau Seneddol Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru ac yn pleidleisio o blaid.

Mae cyd-aelodau blaenllaw Cameron yn y Cabinet wedi anfon llythyr at y Daily Telegraph er mwyn ceisio perswadio Aelodau Seneddol sydd rhwng dau feddwl ar y mater i ymuno â’r garfan Ie.

“Dyma’r adeg iawn i wneud y peth iawn,” meddai George Osborne, William Hague a Theresa May mewn llythyr ar y cyd.

“Mae priodas wedi esblygu gydag amser. Byddai agor priodas i gyplau o’r un rhyw yn cryfhau yn hytrach nag yn gwanhau’r sefydliad.”

Hain o blaid, Murphy yn erbyn

Mae cyn-ysgrifennydd Cymru Peter Hain wedi datgan ei fwriad i bleidleisio o blaid y Bil ond mae cyn-ysgrifennydd gwladol arall, Paul Murphy, wedi dweud ei fod am bleidleisio yn erbyn am ei fod yn gwrthwynebu “ail-ddiffinio priodas.”

Mae sôn y bydd oddeutu 25 AS Llafur yn gwrthwynebu’r Bil pan fydd y bleidlais rydd heno, ond mae disgwyl i’r Bil gaei ei basio er gwaethaf gwrthwynebiad Eglwys Loegr ac Archesgob newydd Caergaint, Justin Welby.

Yn ôl y Bil byddai’n anghyfreithlon i’r Eglwys yng Nghymru briodi cyplau hoyw, ond mae modd i Gorff Llywodraethol yr eglwys wneud cais i newid hynny heb yr angen am ddeddf bellach.